Artes Mundi: John Akomfrah yn fuddugol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
John AkomfrahFfynhonnell y llun, Polly Thomas/Artes Mundi

Mae gwneuthurwr ffilm gafodd ei ysbrydoli gan fewnfudwyr ac erledigaeth grefyddol am dros bedair canrif wedi ennill gwobr gelf Artes Mundi.

Cafodd John Akomfrah ei ddewis fel enillydd am ei waith dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys ei arddangosfa ddiweddaraf, Auto Da Fé.

Roedd y wobr ryngwladol yn cael ei dyfarnu yng Nghaerdydd, ble mae arddangosfa o waith y chwe artist oedd ar y rhestr fer.

Dywedodd Akomfrah, sy'n wreiddiol o Ghana ond sydd bellach yn gweithio yn Llundain, ei fod yn "hynod ddiolchgar" i ennill y wobr.

Mae'r wobr o £40,000 yn un o wobrau celfyddydol mwyaf Prydain, sy'n cael ei roi bob yn ail flwyddyn.

Roedd y Cymro Bedwyr Williams yn un o'r chwe artist oedd ar y rhestr fer eleni, ac er nad ef enillodd y brif wobr, ef oedd yn fuddugol yng Ngwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Mae'r wobr £30,000 yn golygu bod ei waith ef yn gallu cael ei brynu ar gyfer casgliad celf gyfoes Amgueddfa Cymru.

'Gwaith arbennig'

Dywedodd cyfarwyddwr Gwobr Artes Mundi, Karen Mackinnon: "Roedd y beirniaid o'r farn bod yr holl enwau ar y rhestr fer wedi dangos gwaith arbennig.

"Ond mae'r wobr yn cael ei dyfarnu nid yn unig am y gwaith yn yr arddangosfa ond am safon eu gwaith dros yr wyth mlynedd diwethaf.

"Cafodd Gwobr Artes Mundi 7 ei ddyfarnu am gyflwyniad Akomfrah o Auto Da Fé ac am ei waith ardderchog yn delio ag ymfudo, hiliaeth ac erledigaeth grefyddol.

"Mae siarad am y materion yma ar hyn o bryd yn teimlo'n bwysicach nag erioed."

Ffynhonnell y llun, Polly Thomas/Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

John Akomfrah o flaen ei arddangosfa, Auto Da Fé

Dywedodd Akomfrah, sy'n 59 oed, ar ôl derbyn y wobr: "Rydw i'n hynod ddiolchgar am y cyfle y mae hyn yn ei gynnig i orffen rhywbeth dwi wedi bod yn gweithio arno ers dros ddegawd.

"Dros y blynyddoedd, mae'r Artes Mundi wedi dewis artistiaid arbennig ar gyfer y wobr yma.

"Roedd pob un ohonyn nhw'n artistiaid pwysig, oedd yn gwneud gwaith heriol, ac mae ymuno â'r grŵp yna yn anrhydedd a chyfrifoldeb enfawr."

Bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter nes 26 Chwefror.