ACau yn cyfarfod Tata wedi cynnig pensiwn gweithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ACau yn cyfarfod swyddogion cwmni dur Tata ddydd Gwener, wedi i undebau argymell bod gweithwyr yn derbyn cynnig fydd yn cynnwys newid i'w hamodau pensiwn.
Mae'r tri undeb yn dweud bod problemau yn deillio o'r cynnig ond mai dyma'r "unig ffordd gredadwy ac ymarferol i sicrhau dyfodol."
Mae'r cytundebau ar newid i'r pensiynau yn cael eu gweld yn hanfodol ar gyfer buddsoddiad gwerth £1bn ym Mhort Talbot yn ystod y deng mlynedd nesaf.
Yr ACau David Rees a Lee Waters sy'n cyfarfod swyddogion Mhort Talbot.
Mae safle Tata ym Mhort Talbot yn etholaeth Mr Rees, Aberafan, tra bod safle Trostre ger Llanelli yn etholaeth Mr Waters.
Mae disgwyl pleidlais ar y cynnig presennol ddydd Llun.
Canlyniad gorau
Yn y gorffennol mae'r undebau wedi bod yn dweud mai penderfyniad personol i'r gweithwyr oedd y pensiwn.
Ddydd Iau nododd datganiad ar y cyd gan undebau Unite, GMB a Community nad penderfyniad ysgafn oedd yr argymhelliad newydd.
"Does neb yn dweud bod y cynnig heb ei broblemau. Rydym yn deall pryderon yr aelodau, yn enwedig ynghylch cynllun pensiwn Dur Prydain (BSPS).
"Ond dyma'r casgliad yr ydym wedi dod iddo ar y cyd - mae ein penderfyniad wedi cael cefnogaeth arbenigwyr ariannol - hyd y gwelwn ni dyma'r ffordd orau i sicrhau dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Rydyn ni wedi bod yn glir drwy'r broses ei fod yn iawn i unrhyw newidiadau i drefniadau pensiwn i gael eu trafod gan yr undebau'n uniongyrchol gyda Tata.
"Fel partneriaid cymdeithasol rydyn ni wedi cefnogi ein cydweithwyr yn yr undebau bob cam wrth iddyn nhw ymladd dros yr hyn sydd orau i weithwyr dur yng Nghymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny."
Osgoi diswyddo gorfodol
Cafodd yr ymgynghoriad ar newidiadau i'r pensiwn ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr gyda'r bwriad o osgoi diswyddo gorfodol am bum mlynedd.
Y gobaith yw y bydd y newid yn creu buddsoddiad am gyfnod o ddegawd.
Mae'r cynlluniau newydd yn golygu na fydd cyfanswm Tata at y pensiwn yn fwy na 10% ac ni fydd hawl gan y gweithwyr gyfrannu mwy na 6%.
Roedd y cynnig gwreiddiol yn cynnwys cynllun pensiwn newydd gyda chyfraniadau o 3% yn unig gan Tata a 3% gan y gweithwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2017