Brexit: Jo Stevens yn ymddiswyddo o'r fainc flaen
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod Seneddol Llafur, Jo Stevens, wedi ymddiswyddo fel llefarydd y blaid ar Gymru.
Fe benderfynodd yr aelod dros Canol Caerdydd i adael cabinet yr wrthblaid mewn protest yn erbyn penderfyniad yr arweinydd, Jeremy Corbyn, i orfodi ASau Llafur i gefnogi'r mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe benderfynodd y Goruchaf Lys ddydd Mawrth na all y Llywodraeth weithredu Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon heb ganiatâd aelodau seneddol.
Dywedodd Ms Stevens AS wrth arweinydd Jeremy Corbyn ei bod wedi cael ei hannog gan ei hetholwyr yng Nghanol Caerdydd i bleidleisio yn erbyn y mesur, ac felly ei bod yn dadlau yn erbyn gosod chwip y blaid Lafur ar ASau'r blaid wrth bleidleisio ar y ddeddfwriaeth.
Ms Stevens yw'r ail aelod o fainc blaen Llafur i roi'r gorau i'w dyletswyddau oherwydd y bleidlais.
Mae ASau Llafur eraill wedi dweud y byddant yn gweithredu yn erbyn y penderfyniad.
Mewn llythyr at Mr Corbyn, dywedodd Ms Stevens: "Pan fyddaf yn pleidleisio, byddaf yn cynrychioli fy etholwyr, mae llawer iawn ohonynt, gan gynnwys nifer fawr o aelodau'r blaid Lafur a phleidleiswyr eraill, wedi fy annog yn gryf i bleidleisio i'r perwyl hwn."
Dywedodd hefyd fod y Prif Weinidog, Theresa May yn "arwain ein gwlad tuag at allanfa creulon, gan achosi niwed i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli."
Arweinydd Llafur
Wrth ymateb i ymadawiad Jo Stevens o'r fainc flaen, diolchodd Jeremy Corbyn iddi am ei gwaith fel llefarydd y blaid ar Gymru.
Ychwanegodd: "Mae hi'n gaffaeliad mawr i'r blaid Lafur ac yn llais cryf dros Gymru.
"Rwy'n deall yr anhawsterau y mae Jo ac ASau eraill yn eu cael wrth wynebu mesur Erthygl 50. Mae'n ddealladwy fod rhwygiadau ymysg ASau sydd yn cynrychioli etholaethau oedd wedi pleidleisio'n gryf o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Ond mae'n beth cywir i'r blaid Lafur barchu canlyniad y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Rydym wedi dweud ar hyd y daith na fydd Llafur yn rhwystro'r gwaith o danio Erthygl 50 ac i'r perwyl hwnnw rydym yn gofyn ar holl ASau'r blaid i bleidleisio o blaid y mesur yn ei ail ddarlleniad yr wythnos nesaf.
"Rwy'n dymuno'r gorau i Jo Stevens ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda hi yn y dyfodol", meddai.