Gwobr i bafiliwn newydd yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae pafiliwn newydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn un o wobrau mawr y diwydiant gwyliau ym Mhrydain.
Roedd maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 yn edrych yn dra gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf, wrth i bafiliwn newydd gymryd lle'r pafiliwn pinc oedd i'w weld am nifer o flynyddoedd.
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y pafiliwn wedi derbyn y wobr am y Strwythur Dros-Dro Gorau yng ngwobrau'r Festival Supplier Awards yn Llundain.
Fe gafodd y pafiliwn newydd ei ganmol gan feirniaid y gwobrau, gan nodi "ei fod yn darparu ateb arloesol i ddigwyddiad proffil-uchel, gan wella'r profiad ar gyfer pawb a chan godi safon y cynhyrchiad ar gyfer yr elfennau darlledu".
Dywedodd Pennaeth Technegol yr Eisteddfod, Huw Aled Jones: "2016 oedd blwyddyn gyntaf y strwythur newydd, ac rydym ni a Neptunus [y cwmni sy'n gyfrifol am y pafiliwn] yn hynod falch gyda'r ymateb gan ein hymwelwyr a chan y diwydiant gwyliau.
"Yn ddi-os, roedd y profiad o fod yn y Pafiliwn newydd yn gwbl wahanol i'r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc, gyda'r ansawdd gymaint yn well ar gyfer perfformwyr ac artistiaid, cystadleuwyr a'r gynulleidfa.
"Roedd y strwythur newydd hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy beiddgar ac arbrofol gyda goleuadau a sain, gan greu awyrgylch llawer mwy safonol a phroffesiynol ar brif lwyfan yr Eisteddfod."
Fe ychwanegodd: "Edrychwn ymlaen at gydweithio eto eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn."
Bydd y pafiliwn newydd yn dychwelyd i Faes yr Eisteddfod eleni, pan fydd yr ŵyl ym Modedern, Ynys Môn o 4-12 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2015