Amseroedd aros llawdriniaeth clun yn 'warthus', medd AC

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd in Bodelwyddan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bod amser aros o 112 wythnos ar gyfer llawdriniaeth i gael clun newydd

Mae'r amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth i gael clun newydd yn "warthus" yn ôl un aelod cynulliad.

Fe ysgrifennodd Darren Millar at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl iddo dderbyn cwyn gan etholwr am ei thriniaeth.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau fod cleifion yn gorfod aros 112 wythnos ar gyfer y llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod maes orthopedig yn "heriol" a bod lle i wella gan ychwanegu nad yw rhai o'r amseroedd aros yn dderbyniol.

Yn ôl yr ystadegau, llawdriniaeth ar gyfer y clun sy'n cynrychioli'r bwlch mwyaf ym mherfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.

Yn Lloegr, mae claf yn aros 76 diwrnod ar gyfartaledd o'i gymharu â 226 diwrnod yng Nghymru.

Dywedodd Mr Millar, AC Gorllewin Clwyd, fod hi'n annerbyniol fod cleifion yn gorfod aros dros ddwy flynedd am lawdriniaeth bwysig.

"Mae oedi mewn triniaeth yn cael effaith mawr ar safon bywyd, a gallai hyn fod yn gostus i'r gwasanaeth iechyd gan fod cyflwr y claf yn dirywio ac o bosib bydd angen llawdriniaeth fwy cymhleth a mwy drud o ganlyniad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod maes orthopedig yn "heriol" a bod lle i wella

Mewn ymateb i lythyr Mr Millar yn Nhachwedd 2016, fe wnaeth prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, gadarnhau fod yna amser aros o 112 wythnos.

Dywedodd: "Tra ein bod yn derbyn nad dyma'r lefel o wasanaeth rydym am ei ddarparu, rydym yn hapus i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros."

Ychwanegodd fod arolwg o wasanaethau orthopedig yng ngogledd Cymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed bod 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos rhwng cael eu cyfeirio a derbyn triniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y mwyafrif o gleifion yn y gogledd yn aros llai na 26 wythnos.

"Ond rydym yn cydnabod fod maes orthopedig yn un heriol, ac mae rhai o'r amseroedd aros yn annerbyniol," meddai.

Dywedodd fod rhaglen newydd - Rhaglen Gofal, dolen allanol- wedi ei chyflwyno a'u bod yn disgwyl gweld gostyngiad yn yr amseroedd aros.

Ychwanegodd y llefarydd fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi derbyn cyllid ychwanegol er mwyn cefnogi perfformiad, a'u bod nhw'n disgwyl gweld gwelliannau o fewn y misoedd nesaf.