Ymchwilio i ddiogelwch data cynllun Rhentu Doeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
diogelu dataFfynhonnell y llun, Maksim Kabakou

Mae ymchwiliad ar droed wedi i gyngor sy'n gofalu am gynllun cenedlaethol i gofrestru landlordiaid yrru neges oedd dangos cannoedd o gyfeiriadau e-bost.

Roedd Rhentu Doeth Cymru wedi cysylltu â landlordiaid oedd wedi dechrau'r broses gofrestru ond heb ei chwblhau.

Ond roedd derbynwyr y neges i'w gweld yn y neges.

Dywedodd Cyngor Caerdydd, sy'n gweinyddu Rhentu Doeth Cymru, eu bod yn ymchwilio i'r mater.

Ers mis Tachwedd 2016, mae'n rhaid i bob landlord sy'n rhentu adeilad gofrestru gyda'r cynllun.

Dywedodd Douglas Haig, cyfarwyddwr Cymreig Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl: "Rydyn ni wedi rhybuddio ers tro bod angen gwell diogelwch o amgylch cynllun Rhentu Doeth Cymru i atal camgymeriad fel hyn rhag digwydd.

"Gan fod landlordiaid ac asiantau yn gorfod cofrestru yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid iddyn nhw allu bod yn ffyddiog bod eu manylion personol yn cael eu trin mewn modd sensitif.

"Er ein bod yn siŵr mai camgymeriad diniwed oedd hwn, fe hoffwn ni weld mesurau'n cael eu cyflwyno i sicrhau na fydd o'n digwydd eto."

Dywedodd llefarydd ar ran Rhentu Doeth Cymru yng Nghyngor Caerdydd: "Mae Rhentu Doeth Cymru yn ymwybodol bod mater wedi codi ar 2 Chwefror 2017 yn gysylltiedig â chyswllt cwsmeriaid.

"Mae Rhentu Doeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd yn trin Diogelwch Data o ddifri'. Mae ymchwiliad i'r mater ar hyn o bryd i gyd-fynd â pholisïau diogelu data'r cyngor."