Dyn 18 oed wedi ei saethu'n farw yn Llanbedrog ger Pwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o ddynion wedi cael eu harestio wedi i ddyn gael ei saethu'n farw mewn pentre' ger Pwllheli.
Bu'r dyn 18 oed farw mewn cerbyd ym maes parcio tafarn y Llong yn Llanbedrog fore Sul.
Mae'n debyg fod y dyn, oedd yn dod o'r ardal, yn heliwr brwd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle ychydig wedi hanner nos bore dydd Sul.
Mae teulu'r dyn, yn ogystal â'r crwner, wedi cael eu hysbysu.
Dywedodd cynghorydd lleol bod y digwyddiad wedi ysgwyd y gymuned.
"Wnes i erioed feddwl pan godais i'r bore 'ma - bore Sul braf - y byddwn i'n clywed newyddion trist am fachgen ifanc yn colli'r dydd," meddai Angela Russell.
"Dwi a'r gymuned mewn sioc ddifrifol o glywed y fath newydd."
Fe ddywedodd dyn ifanc sy'n byw'n lleol wrth y BBC ei fod wedi gweld y goleuadau glas yn y pentre' fore Sul, ond nad oedd o wedi dychymygu bod y digwyddiad yn un difrifol.
"Dydy rhywun ddim yn disgwyl o mewn cymuned fel hon," meddai Will Paice.
"Mae hi mor agos, pawb yn nabod ei gilydd. Mae'n hitio'n galed pan mae'n digwydd mewn rhywle fel hyn."
Un sy'n byw ger y dafarn yw Catrin Hughes, a dywedodd wrth Cymru Fyw:
"Mi glywson ni'r siren ychydig wedi 12:00, o gwmpas hanner nos. Roedden ni'n meddwl mai damwain ffordd oedd hi am fod y lonydd mor gul.
"Doedden ni heb glywed dim mwy wedyn."
Ychwanegodd: "Mae hi'n dafarn dawel fel arfer, mae yna bump i wyth yn yfed yn y bar top ac ma' pawb yn nabod pawb, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn."
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal nos Sadwrn a welodd "nifer o ddynion mewn cerbyd Land Rover Discovery ar y safle".