300 o swyddogion Heddlu Gwent mewn cyrch cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cynnal ei ymgyrch gwrth gyffuriau fwyaf erioed yng Nghasnewydd.
Mae tua 300 o swyddogion wedi bod yn rhan o'r ymgyrch fore Mawrth.
Fe gafodd y cyrch ei gynnal ar ôl adroddiadau gan aelodau o'r gymuned am bobl yn delio mewn cyffuriau caled.
Fe wnaeth swyddogion gyflwyno 14 gwarant yng Nghasnewydd am 05:00.
Yr Uwch Arolygydd, Matthew Williams yn esbonio pam eu bod wedi trefnu'r cyrch
Mae 20 o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dywedodd Marc Budden o Heddlu Gwent: "Hwn yw'r cyrch cyffuriau mwyaf rydym wedi ei weld yng Ngwent.
"Roedd swyddogion yn defnyddio cyfarpar arbennig fel llif gadwyn a driliau er mwyn sicrhau mynediad cyflym i adeiladau."
