Cynghorau wedi cau dros 100 toiled cyhoeddus yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?

Fe ddylai cynghorau lleol godi mwy am gael defnyddio toiledau cyhoeddus, neu wynebu'r posibilrwydd o'u gweld yn diflannu yn gyfan gwbl, medd ymgyrchwyr.

Mae ymchwil gan BBC Cymru yn dangos fod cynghorau Cymru wedi cau dros 100 o doiledau cyhoeddus ers Mawrth 2013 - sef un o bob pump o doiledau cyhoeddus.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud ei bod yn anorfod fod toiledau wedi gweld effaith crebachu ar gyllidebau awdurdodau lleol.

Does yna ddim rheidrwydd cyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Toiledau Prydain bod yn rhaid i bobl dderbyn na all toiledau fod yn rhad ac am ddim, neu byddant yn diflannu.

Mae pryder hefyd wedi ei fynegi y gallai llai o doiledau cyhoeddus gyfyngu ar allu'r henoed a phobl sydd â chyflyrau meddygol rhag mynd allan.

Mae gwaith ymchwil gan y BBC yn dangos ers Mawrth 2013:

  • Bod Cynghorau Cymru wedi cau 113 o doiledau cyhoeddus oherwydd rhesymau cyllid, fandaliaeth a diffyg defnydd;

  • Mae tua 15 o'r rhain nawr yn nwylo grwpiau cymunedol neu gynghorau cymuned;

  • Mae chwech o gynghorau Cymru yn codi tâl ar gyfer toiledau cyhoeddus, gan godi £751,969.97 mewn tair blynedd;

  • Yn ystod y cyfnod fe wnaeth y gost o gynnal toiledau godi i dros £23m - ni wnaeth yr un o'r cynghorau elw drwy godi am y defnydd o'r tai bach;

  • Fe wnaeth Blaenu Gwent benderfynu cau eu holl doiledau yn Nhachwedd 2012. Mae pedwar o'r rhain nawr yng ngofal grwpiau cymunedol;

  • Mae cyngor Sir y Fflint yn ystyried cau dau doiled cyhoeddus oni bai fod grŵp cymunedol yn fodol bod yn gyfrifol amdanynt.

Yn ôl Age Cymru mae pobl hŷn yn fodlon talu am doiledau cyhoeddus - ond y broblem yw eu bod yn anodd dod o hyd iddynt, eu bod wedi cau neu eu bod yn fudr.

"Mae hwn yn fater iechyd cyhoeddus ac rydym yn credu y dylai fod yn ddyletswydd ar awdurdodau i ddarparu toiledau cyhoeddus, oherwydd bod y rhain yn hanfodol i bobl hŷn ac i eraill yn ein cymdeithas," meddai llefarydd ar ran yr elusen.

"Mae'n rhoi'r rhyddid i bobl allu gadael eu cartrefi."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 100 o doiledau cyhoeddus wedi cau ers Mawrth 2013

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud fod cynghorau yn gwneud eu gorau i gadw toiledau cyhoeddus ar agor.

Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas: "Mae cynghorau wedi wynebu toriadau sylweddol yn eu cyllidebau yn y blynyddoedd diwethaf, sy'n amlwg wedi cael effaith ar y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus.

"Mae cynghorau yn edrych ar ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth toiledau cyhoeddus, gan gynnwys cydweithio gyda chymunedau a phartneriaid eraill."