Penodi Christina Rees yn llefarydd Llafur ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
Christina Rees

Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi penodi AS Castell-nedd, Christina Rees, yn llefarydd y blaid ar Gymru.

Daw'r penodiad ar ôl i nifer o aelodau o gabinet Mr Corbyn adael eu swyddi, wedi'r pleidlais ar fesur Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe wnaeth rhagflaenydd Ms Rees, Jo Stevens AS, ymddiswyddo mewn protest yn erbyn gorchymyn gan Mr Corbyn i gefnogi mesur i ddechrau proses Brexit.

Dywedodd Mr Corbyn ei fod yn "falch" cael cyhoeddi'r penodiadau, ac y byddai'r "talent yn ein plaid a chryfder ein cabinet cysgodol yn datblygu cynllun Llafur i ail-adeiladu a thrawsnewid Prydain".

Ymysg y penodiadau eraill mae Rebecca Long-Bailey wedi ei phenodi yn llefarydd y blaid ar Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Sue Hayman yw'r llefarydd ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Peter Dowd yw prif ysgrifennydd Llafur i'r Trysorlys.