Yr Egin: Ansicrwydd am gynllun ariannol pencadlys S4C

  • Cyhoeddwyd
Egin

Fe wnaeth y brifysgol y tu ôl i bencadlys newydd S4C, Yr Egin, ddweud wrth Lywodraeth Cymru y byddai angen arian cyhoeddus, fis yn unig cyn gwadu bod bwlch ariannol.

Mae papur briffio gafodd ei yrru gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i'r llywodraeth ym mis Medi yn dweud: "Mae angen buddsoddiad cyhoeddus yng nghynllun Yr Egin y brifysgol er mwyn cael gwared â'r bwlch ariannol."

Ym mis Hydref, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wrth ACau ei fod yn "siomedig" bod bwlch ariannol wedi ymddangos.

Mae'r brifysgol wedi gwadu na dyna oedd yr achos, gan ddweud nad oes bwlch ariannol wedi ymddangos yn y cynllun busnes.

Fe wnaeth y brifysgol ofyn am arian cyhoeddus bythefnos ar ôl i S4C gael gwybod bod y cynllun yn datblygu yn ôl y disgwyl.

Daeth ar ôl i'r brifysgol ddweud bod y cynllun yn cael ei "reoli'n effeithiol".

Fe wnaeth prif weithredwr S4C, Ian Jones, ysgrifennu at Is-ganghellor y brifysgol yn croesawu "sicrwydd bod costau'r cynllun yn parhau i gael eu rheoli'n effeithiol".

Roedd y brifysgol hefyd wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru bod tua 65 o staff S4C a'r BBC yn symud i'r Egin.

Dywedodd BBC Cymru nad oedd unrhyw gytundeb o'r fath wedi ei gadarnhau a bod trafodaethau yn parhau.

Ffynhonnell y llun, PCDDS

Dywedodd llefarydd ar ran S4C mai'r brifysgol oedd yn gyfrifol am adeiladu ac ariannu Yr Egin.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Nid oes bwlch ariannol wedi ymddangos yng nghynllun busnes Yr Egin ers i S4C ei dderbyn."

Ychwanegodd bod yr Awdurdod yn "llwyr ymwybodol o'r ffaith y byddai'r brifysgol yn gwneud cais drwy sianelau allanol am arian tuag at ddatblygu clwstwr creadigol yng Nghaerfyrddin".

Dywedodd y llefarydd hefyd y "byddai'n anodd iawn deall pam y byddai cynllun trawsnewidiol allweddol fel hwn yng Ngorllewin Cymru, a fyddai'n gwireddu amcanion strategol clir yn Symud Cymru Ymlaen, yn cael ei wrthod, yn enwedig o gofio bod yr argymhellion yn rhoi sylw teilwng i'r holl risgiau ariannol terfynol".