Beti George yn galw am 'chwyldro' mewn gofal dementia
- Cyhoeddwyd
Gofynnodd Cymru Fyw i Beti George ysgrifennu am yr heriau a'r rhwystredigaethau sy'n wynebu gofalwyr, cyn i raglen Beti and David: Lost for Words, gael ei darlledu.
Mae'r rhaglen yn trafod salwch Alzheimer's ei phartner, y newyddiadurwr a'r darlledwr David Parry-Jones, a'r berthynas rhwng dau berson sy'n byw gyda dementia.
Ar y rhaglen mae'r ddarlledwraig yn galw am 'chwyldro' ym myd gofalwyr pobl gyda dementia.
Fe ofynnwyd i fi a oeddwn i'n poeni o gwbl am ddarllediad y rhaglen. Alla i ddim dweud yn gwbl onest fy mod i'n hollol gyfforddus.
Dwi'n siwr y bydd 'na feirniadu arni oherwydd fy mod mor onest yn sôn am broblemau'r "gofal personol" fel maen nhw'n galw'r hyn sy'n digwydd yn y stafell ymolchi a'r tŷ bach - pethau nad ydyn ni byth yn eu trafod. Ych a fi!
Ond wrth gwrs, mae'n rhan allweddol o'n bywydau ni i gyd. Hefyd, yn achos gofalu am rywun â dementia, problemau yn ymwneud â'r gofal personol yma a'r teimlad o gyrraedd pen tennyn - "alla i ddim dygymod bellach" - yw un o'r prif resymau dros benderfynu mai'r unig ddewis i'r un sy' â dementia yw cartre preswyl.
Yn fy marn i mae angen mwy o ymchwil i'r maes dyrys yma. 'Alla i ddim credu, yn yr oes hon o wyrthiau technegol, na fuasen nhw wedi dod o hyd i well atebion erbyn hyn!
Fe ges i air â'r arbenigwr sy'n gofalu ar ôl David a gofyn y cwestiwn a fuase David yn ei farn e yn fodlon, petai e'n sylweddoli, i mi drafod rhywbeth sy'n cael ei ystyried mor breifat yn gyhoeddus fel hyn?
O'i nabod e ers dechrau'r clefyd, roedd e'n credu y byddai'n gwbl fodlon, yn enwedig petai hynny yn cyfrannu at newid pethe o safbwynt gofal dementia. Fel cyn-newyddiadurwr fe fuase fe yn deall yn iawn.
Bob blwyddyn fe fydda i yn sgwrsio â myfyrwyr blwyddyn gynta'r Ysgol Feddygol yng Nghaerdydd am ofal dementia ac fe fydda i'n trafod yn llawer mwy agored a manwl y problemau yn ymwneud â'r gofal personol.
A hynny bob tro sy'n creu'r argraff fwya' arnyn nhw ac a fydd, gobeithio, yn help iddyn nhw pan fyddan nhw allan yn y byd go iawn!
Dim ond rhan fach fach o'r rhaglen sy'n rhoi sylw i'r broblem honno.
Dwi'n ddigon lwcus i gael llais i eiriol dros y miloedd o ofalwyr yng Nghymru sydd yn fy sefyllfa i a llawer gwaeth. A dyna brif nod y rhaglen.
Mae'r ymwybyddiaeth o beth yw dementia wedi codi'n sylweddol ers i David gael gwybod yn 2009. Ac erbyn hyn mae 'na sawl ymgyrch yn pwysleisio'r angen i gefnogi'r rheiny sydd newydd gael deiagnosis. Da o beth yw hynny.
Ond y gwir plaen yw bod y rhan fwya' yn yr un sefyllfa â ni pan yw'r clefyd a'r gofal yn dwysau. Menywod gan fwya' yw'r gofalwyr ac yn aml iawn mae hwythe hefyd yn heneiddio ac yn fregus eu hiechyd. Yn anffodus dyw ymgyrchu ar ran y rhain ddim yn digwydd.
Mae'r pwyslais (a'r arian sy'n cael ei wario hefyd) ar greu cymunedau dementia-gyfeillgar sy'n fuddiol iawn i'r sawl sydd ar ddechrau'r siwrnai dementia.
Ond dyw David bellach ddim yn rhan o'r gymuned. A 'dyn ni ddim yn elwa dim o'r cymunedau dementia-gyfeillgar.
Teitl Saesneg strategaeth newydd ein llywodraeth ni gyda llaw - sydd allan ar ymgynghoriad ar hyn o bryd - yw "Together for a Dementia Friendly Wales". Ry'n ni eisiau mwy na hynny!
Chwa o awyr iach
Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio'n ddi-baid y fantais o gadw pobl yn eu cartrefi cyn hired â phosib. Heb gael help a chefnogaeth ddigonol dyw hynny ddim yn bosib.
Ond dyw'r arian ddim ar gael medden nhw. Mae hynny'n wir yn yr Alban hefyd.
Ond roedd yr ymroddiad a'r brwdfrydedd y deuthum i ar ei draws ym mhencadlys Alzheimer's Scotland ac ym Mhrifysgol Gorllewin yr Alban, ymhlith y rheiny sy'n benderfynol o weld yr agwedd at ofal dementia yn newid yn llwyr, yn chwa o awyr iach.
Dyw prinder arian medden nhw ddim yn mynd i'n rhwystro ni rhag trin a thrafod a chanfod atebion fel ein bod yn barod i wynebu'r don enfawr sy'n gyflym nesáu aton ni.
Dwi yn sicr ddim am i neb fydd wedi gweld y ffilm gydymdeimlo â fi. Dwi ddim am glywed "O druan â ti" o gwbl. Dyw edrych ar ôl David ddim yn faich.
Neithiwr roedd e mewn hwylie drwg iawn - yn gwrthod yn deg â mynd i'r gwely. Wedi trio ymresymu ag e doedd dim yn tycio ac felly fe es i i'r gwely gan ei adael e yn y gadair yn y stafell fyw. Rhyw awr yn ddiweddarach am un o'r gloch y bore fe ymunodd â fi o'i wirfodd.
Y bore 'ma am chwech o'r gloch dyma fe'n galw "Where are you?".
"Dwi yma wrth dy ochr di," meddwn i. Fe ges i'r cwtsh mwya a alle fe roi i fi. "Sorry," medde fe.
Na, mi ddweda i eto, dyw gofalu am David ddim yn faich.
Beti and David: Lost for Words, nos Lun am 21.00 ar BBC One Wales.