Gweithwyr Tata yn pleidleisio i dderbyn cynllun pensiwn

  • Cyhoeddwyd
gwaith dur Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata'n cyflogi 6,300 o weithwyr yng Nghymru, a 4,000 o'r rheiny ar y safle ym Mhort Talbot

Mae gweithwyr dur Tata wedi pleidleisio i dderbyn newidiadau i'w cynlluniau pensiwn.

Mae'r newidiau yn rhan o gynnig gan Tata i gadw'r busnes ar agor, ond gydag amodau pensiwn llai hael.

O dan y cynllun, bydd Tata hefyd yn buddsoddi £1bn yng ngwaith dur Port Talbot, a bydd dim diswyddiadau gorfodol.

Fe benderfynodd bron i dri chwarter aelodau undebau Community, GMB ac Unite dderbyn y cynllun.

Grey line

Canlyniadau'r bleidlais

  • Undeb Community: 72.1% o blaid, 27.9% yn erbyn;

  • Undeb Unite: 75.6% o blaid, 24.3% yn erbyn;

  • Undeb GMB: 74% o blaid, 26% yn erbyn.

Grey line

Mae Llywodraeth y DU wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud bod angen "cydweithio i wireddu'r cynlluniau".

"Mae'r faith iddyn nhw weithio mewn ffordd mor adeiladol gyda'r perchnogion i sicrhau dyfodol y gwaith yn arwydd o ymrwymiad y gweithlu," meddai llefarydd.

"Bydd y llywodraeth yn chwarae ei rhan i gefnogi'r diwydiant dur i greu dyfodol cynaliadwy".

'Cam ymlaen'

Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod y bleidlais wedi bod yn "benderfyniad anodd" i'r gweithwyr, ond bod y canlyniad yn "gam ymlaen".

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Tata i weithredu ein pecyn cefnogaeth ariannol sylweddol, i sicrhau swyddi a gwaith chynhyrchu ar holl safleoedd Tata yng Nghymru," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn galw eto ar Lywodraeth y DU i "daclo costau ynni mawr y DU".

gweithiwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddur, Bethan Jenkins, bod y cytundeb yn "aberth" ar ran gweithlu heddiw ar gyfer gweithwyr y dyfodol.

"Does dim amheuaeth bod y pecyn o newidiadau a gyflwynwyd yn sobr, ac roedd rhaid iddyn nhw ddewis rhwng eu swydd a'u pensiwn," meddai.

"Dyma'r amser i lywodraethau Cymru a'r DU i gamu lan a dangos eu hymrwymiad i weithwyr dur a'r diwydiant. Byddai hynny'n cynnwys gweithredu ar gostau ynni, buddsoddi mewn pwerdy lleol a chanolfan ddatblygu ac ymchwil dur."

Addewidion i fuddsoddi

Dywedodd AC Aberafan, y Llafurwr David Rees, bod y gweithlu wedi "rhoi ymrywmiad i'r diwydiant dur yma yng Nghymru cyn eu budd personol".

"Nawr mae'n rhaid i Tata ddangos ymrwymiad tebyg drwy gadw i'w haddewidion i fuddsoddi, oedd yn rhan o'r cynllun.

"Dwi wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i ddangos ei hymrwymiad i gefnogi cynhyrchu dur a pharhau i weithio gyda Tata ar brosiectau buddsoddi fydd yn gwneud cynhyrchu dur yn fwy cynalidawy a hyfyw."

Traeth AberafanFfynhonnell y llun, Getty Images

Fis Mawrth 2016, fe gyhoeddodd rheolwyr Tata eu bod yn bwriadu gwerthu'r busnes ym Mhrydain oherwydd pryderon eu bod yn gwneud colledion.

Ond wedi trafodaethau gyda gwleidyddion ac undebau, fe gyhoeddodd y cwmni eu bod yn gweithio ar gynllun i gadw'r busnes, ond y byddai hynny'n golygu newidiadau.

Mae'r cynlluniau newydd yn golygu na fydd cyfanswm Tata at y pensiwn yn fwy na 10%, ac ni fydd hawl gan y gweithwyr gyfrannu mwy na 6%.

Mae BBC Cymru yn deall hefyd y gallai cyfraniad pensiwn o hyd at £10,000 gael ei gynnig i weithwyr Tata sydd dros 50 oed ac yn bwriadu ymddeol yn gynnar.