Plaid Cymru yn galw am sefydlu 'banc y bobl'

  • Cyhoeddwyd
BanciauFfynhonnell y llun, BBC/Reuters

Mae yna alwadau am sefydlu banc i bobl Cymru yn dilyn nifer o gyhoeddiadau diweddar y bydd canghennau'n cau.

Dywedodd Plaid Cymru bod angen "gweledigaeth amgen" ar y system bancio "sydd ddim yn mynd i gefnu ar ei chwsmeriaid".

Yn ôl y blaid, mae disgwyl i fanciau'r stryd fawr gau 36 o ganghennau yng Nghymru eleni.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Adam Price y byddai banc y bobl yn "rhwydwaith" o fanciau dan eiddo lleol, tebyg i'r hyn a welir mewn gwledydd Ewropeaidd.

"Dwi'n credu ei bod hi'n bryd i ni feddwl am fodel amgen... sy'n defnyddio'r arian rydych chi a fi'n ei roi yn ein cyfrifon banc," meddai.

"Mae hwnnw yno wedyn i'w roi mewn benthyciadau i bobl a busnesau eraill lleol, fel y gallwn ni reoli dyfodol ein heconomi."

Dywedodd Mr Price, llefarydd y blaid ar yr economi, y byddai rôl bosib i Lywodraeth Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru, i weithredu fel canolbwynt i'r system.

Mewn dadl ddydd Mercher, bydd Plaid Cymru'n galw ar weinidogion i archwilio'r camau sydd angen eu cymryd o ran rheoleiddio, a deddfau newydd i sefydlu model bancio amgen.

Dros y misoedd diwethaf, mae nifer o fanciau wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau canghennau.

Fis Tachwedd, cyhoeddodd banc Lloyds y byddai 10 cangen yn cau. Fis yn ddiweddarach, cyhoeddodd NatWest y byddai naw cangen yn cau yn y gogledd, cyn i HSBC gyhoeddi fis Ionawr y byddai naw o'u canghennau'n cau yng Nghymru.