Angen pwyntiau gwefru 'cyflym' yng nghefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau ar i Lywodraeth Cymru helpu cyflwyno rhwydwaith o bwyntiau gwefru "cyflym" ar gyfer ceir trydan drwy gefn gwlad Cymru.
Ar hyn o bryd dim ond ar hyd yr A55 a'r M4 mae 'na bwyntiau ar gyfer defnydd cyhoeddus.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cysgodol dros yr Economi, y Ceidwadwr Russell George, mae angen i weinidogion gydnabod y bydd angen "peth nawdd a chymorth ariannol" i wella'r sefyllfa.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi'u hymrwymo i helpu'r sector ceir trydan i ffynnu yng Nghymru.
Mae'r ffigyrau diweddara'n dangos bod nifer y ceir trydan yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 'na 1725 o geir trydan neu hybrid ar ffyrdd Cymru rhwng Gorffennaf a Medi 2016, yn ôl ffigyrau'r DVLA, o'i gymharu a dim ond 70 yn ystod yr un cyfnod yn 2012.
Mae gweinidogion Cymreig wedi datgan eu bod nhw am weld defnydd ceir trydan yn dod yn beth llawer mwy arferol, fel rhan o ymdrechion i dorri allyriadau carbon, taclo newid hinsawdd a llygredd aer.
Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu bod prinder isadeiledd gwefru yng Nghymru yn arafu unrhyw dwf yn ddifrifol.
Dywedodd Richard Burrows, sy'n rhedeg busnes darparu offer plymio a gwresogi yn y Drenewydd, Powys, ei fod e'n ei chael hi'n "anodd iawn" teithio pellteroedd hir yn ei fan drydan.
Fe brynodd y cerbyd er mwyn ceisio lleihau costau busnes, ond mae nawr yn ailystyried a ydy'r fan yn opsiwn gwirioneddol ar gyfer natur ei waith.
"Dwi'n credu bod Cymru wedi bod yn araf iawn yn mabwysiadu cerbydau trydan, yn wahanol i Loegr a'r Alban lle mae lot o gynghorau lleol wedi cymryd camau cadarnhaol."
"Yn fan hyn mae na bwyntiau gwefru ar dop a gwaelod y wlad, ond drwy'r canolbarth mae'n anodd iawn mynd unrhywle."
Mae Mr Burrows bellach wedi gosod pwynt gwefru canolig-o-ran-cryfder yn ymyl ei fusnes ar Stad Ddiwydiannol Mochdre, sy'n ei alluogi i wefru ei fan mewn oddeutu 4 awr.
Byddai pwynt gwefru "cyflym" yn gwneud y gwaith mewn oddeutu 20 munud - "gwahaniaeth mawr" fel yr eglurodd Mr Burrows.
"Yn amlwg does 'na ddim isadeiledd gwefru yn lleol felly'r peth synhwyrol oedd i osod un ein hunain.
"Yn ddelfrydol, serch hynny, mae angen rhwydwaith o bwyntiau cyflym yn y canolbarth fel bod defnydd ceir trydanol yn gallu tyfu."
Nôl yn 2015, fe gyflwynodd grŵp o arbenigwyr restr o argymhellion, dolen allanol ar gais Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno pwyntiau gwefru yn holl adeiladau'r llywodraeth ac annog cynghorau lleol i wneud yr un fath.
Dywedodd Russell George, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Maldwyn, ei bod hi nawr yn amser i Lywodraeth Cymru weithredu ar gasgliadau'r adroddiad: "Ar y funud mae'n amhosib i chi deithio o ogledd i dde Cymru mewn car trydan.
"A'r trwbl yw ei bod hi'n sefyllfa 'iâr ac wy'- mae pobl eisiau defnyddio ceir trydan ond achos nad yw'r isadeiledd yno dy'n nhw ddim yn medru - a bydd yr isadeiledd ddim yn cael ei adeiladu tan fod mwy o alw am geir trydan."
"Hoffen i weld y llywodraeth yn cydnabod bod angen peth nawdd a chymorth ariannol ar gyfer hyn.
"Os yw pawb yng Nghymru i wneud defnydd teilwng o gerbydau trydan yna mae'n rhaid i chi gael pwyntiau gwefru mewn ardaloedd gwledig hefyd".
Un sefydliad sy'n ceisio gwella'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru yng nghefn gwlad yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae'r corff wedi gosod bron i 40 o bwyntiau araf neu ganolif-o-ran-cryfder ger eu hadeiladau yng Nghymru ac mae na gynlluniau i osod 30 yn fwy dros yr 18 mis nesa.
Dywedodd Keith Jones, Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei fod yn gwneud synwyr amgylcheddol a synwyr busnes, gydag ymwelwyr yn treulio amser yn ymweld ag adeiladau'r elusen tra'n aros i'w ceir i wefru.
"Dwi'n credu bod angen i ni fel gwlad edrych ar y sefyllfa a gofyn ble hoffen ni fod o fewn deg mlynedd. A beth sydd angen gwneud i sicrhau bod hynny'n digwydd?"
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo i chwilio am gyfleoedd i ostwng allyriadau o drafnidiaeth a chynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i'r sector cerbydau carbon isel i dyfu a chreu swyddi yng Nghymru."
"Ry'n ni'n ystyried argymhellion y Grŵp llywio arbenigol ar Gerbydau Carbon Isel fel rhan o'r cyd-destun ehanganch o'n cyfrifoldebau i leihau allyriadau carbon dan Ddeddf Amgylchedd Cymru."