Ateb y Galw: Emyr Huws Jones
- Cyhoeddwyd
Y cerddor a'r cyfansoddwr Emyr Huws Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Lyn Ebenezer yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Gwneud twll yn yr ardd gefn efo rhaw fach glan môr a tharo carreg rhyw dair modfedd i lawr a rhedeg i'r tŷ i ddeud wrth mam fy mod wedi cyrraedd canol y ddaear.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Cher a Natalie Wood
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhywbeth gododd fwy o gywilydd ar mam druan na fi - pan o'n i tua 4 oed fu raid iddi fy llusgo allan o'r capal am fy mod i wedi dechrau gweiddi c***u dros bob man!
Neu syrthio hanner ffordd i lawr manhole drwy beidio ag edrych i lle o'n i'n mynd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n crio'n aml deud y gwir - efo ambell ffilm neu gân ond yn enwedig os clywai stori am greulondeb i anifeiliaid. Mae hynny yn fy ngwylltio yn fwy na dim bron.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n un gwael am roi corcyn yn ôl mewn potel win ar ôl ei hagor. Dwi yn ofnadwy o flêr hefyd ac os bydd darn o bapur yn syrthio o fy mhoced ar lawr mi fydd yno am sawl diwrnod cyn i mi ei godi. Dwi'n ei chael yn anodd cael gwared ar bethau ac yn cadw sothach jest rhag ofn y bydd yn ddefnyddiol rhyw ddiwrnod.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Llanddwyn - un o Niwbwrch oedd fy mam ac roeddwn i'n cael mynd yn aml i draeth Llanddwyn pan oeddwn i'n hogyn ac mae'r ynys yn ddigon pell fel nad oes byth lot o bobl yna.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Anodd dewis rhwng cyngerdd Leonard Cohen oedd yn deir awr a mwy o bleser pur neu'r tro ola i mi weld Bob Dylan yn 2015 gan fy mod wedi llwyddo i gael seddi yn yr ail res ac yn gallu gweld pob manylyn ar ei wyneb - dyna'r agosa i mi fod at fy arwr mawr erioed.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Sentimental, diamynedd a blin
Beth yw dy hoff lyfr?
Catch 22 gan Joseph Heller neu rywbeth gan P G Wodehouse.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Bob Dylan, Townes van Zandt, Guy Clark a Hank Williams.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
The Story of Anderson Fair - ffilm ddogfen ddifyr iawn.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Stopio anadlu ydi'r ateb amlwg - ond cyn hynny mi faswn yn agor potel o win coch a gwylio DVDs o grwpiau/unigolion o fyd cerddoriaeth sydd wedi rhoi pleser i mi a gobeithio y baswn yn medru gweld nifer fawr ohonynt cyn rhoi'r wich olaf. Wedyn, deud gweddi fach i sicrhau bod 'na gwrw a gwin yn y nefoedd a bod Winni Welsh wedi agor siop jips yno.
Dy hoff albwm?
Rhywbeth gan Bob Dylan, Townes van Zandt neu Guy Clark.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?
Prif gwrs - tatws popty, moron a rwdan wedi'u cymysgu a phys slwj - a dim tatws pôb dwi'n feddwl chwaith.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Bob Dylan - dim ond i drio deall sut ar y ddaear y mae o'n dal i fod mor gynhyrchiol mewn mwy nag un maes. O lle mae o'n cael y syniadau a'r ynni?
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Osian Gwynedd