Rhybudd am gynnydd mewn hunanladdiadau ymysg dynion
- Cyhoeddwyd
Wrth i ffigyrau diweddara' ddangos cynnydd sylweddol yn nifer hunanladdiadau dynion yng Nghymru, mae teulu o sir Gaerfyrddin yn rhybuddio bod angen gwneud hi'n haws i ddynion gael triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl.
Wrth siarad gyda rhaglen materion cyfoes BBC Radio Cymru, Manylu, mae chwaer cyn-filwr wnaeth ladd ei hun wedi dweud y gallai cael help arbenigol yng nghynt fod wedi achub bywyd ei brawd.
Bu farw Dylan Jones, o Lansawel, yng Ngorffennaf 2015, yn 37 oed. Roedd e'n un o 274 o ddynion wnaeth ladd eu hunain yn y flwyddyn honno - cynnydd o 27% ar 2014.
Yn ôl ei chwaer, Amanda Jones, roedd ei brawd wedi cael ar ddeall y byddai'n rhaid iddo aros pum mis er mwyn cael triniaeth ar gyfer PTSD (Post Traumatic Stress Disorder) - cyflwr meddyliol sy'n eitha' cyffredin ymhlith cyn-filwyr.
"Self-referral oedd e', ac mae'n debyg fod Dylan wedi mynd i gael cymorth ym mis Mawrth 2015, ac roedd y pum mis yn dod i ben ym mis Awst. Yn y pedwerydd mis wedi iddo fe fynd i gael cymorth, roedd hi'n rhy hwyr.
"Pe bai e' wedi cael y cymorth yn syth, a fyddai fe fan hyn gyda ni nawr?"
'Troi'n gymeriad tywyll'
Roedd Dylan, oedd yn dad i efeilliaid wyth oed, wedi treulio bron i 18 mlynedd yn y fyddin. Roedd wedi gwasanaethu sawl gwaith mewn gwledydd fel Irac ac Afghanistan, cyn iddo adael y lluoedd arfog yn 2012.
Yn ôl ei chwaer, roedd ei brofiadau ar faes y gad wedi effeithio arno, ac roedd yn diodde' gyda hunllefau.
"Welon ni Dylan yn newid," meddai Amanda Jones. "Roedd y bachgen hwylus yma wedi troi yn gymeriad tywyll ar adegau. Fe fyddai fe'n colli ar ei hunan, a falle fydden ni ddim yn ei weld e' am gwpwl o ddyddiau, neu wythnosau, ac fe fyddai fe'n dod 'nôl, ac fe fyddai popeth yn iawn.
"Ond, dim Dylan oedd gyda ni.
"Yn amlwg, ro'n ni'n gwybod mai beth oedd e' wedi gweld mas yn y llefydd hyn oedd wedi cael effaith arno fe. Rwy'n teimlo ddylen nhw gael rhyw fath o asesiad cyn bod nhw'n dod mas o'r fyddin. Does dim digon o gymorth mas 'na."
Dynion pedair gwaith yn fwy tebygol...
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth Manylu nad oedd modd trafod achosion unigol, ond ro'n nhw'n annog cyn-filwyr sy'n diodde' â phroblemau iechyd meddwl i geisio cael cymorth cyn gynted â phosib, meddai. Mae cyn-filwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, sydd â symptomau salwch allai fod yn gysylltiedig gyda'u gwasanaeth milwrol yn cael eu trin o dan y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n neilltuo £585,000 bob blwyddyn i drin cyn-filwyr. Yn ôl llefarydd, dylai pobol sy'n cael eu cyfeirio at wasanaeth y cyn-filwyr, gael eu gweld i'w hasesu o fewn 28 diwrnod.
Ychwanegodd y dylid cynnig ymyraethau eraill cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac yn ôl anghenion clinigol, ar ôl eu hasesu.
Yn gyffredinol, mae dynion bedair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na menywod.
Yn ôl Cyfarwyddwr elusen iechyd meddwl MIND Cymru, Sara Moseley, mae angen parhau gydag ymgyrchoedd a mesurau amrywiol i gyrraedd dynion sy' angen help - cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
"Mae 'na lot o waith o'n blaenau ni i ddatblygu ac addasu'r hyn rydyn ni'n ei wneud i gyrraedd pobol sydd mewn angen," meddai. "Mae'n hanfodol o bwysig fod problemau iechyd meddwl yn cael yr un tegwch a'r un pwyslais â phroblemau iechyd corfforol. Dyw'r ffaith eich bod chi ddim yn gallu gweld rhywbeth ddim yn golygu ei fod e' ddim yn digwydd. Mae'n rhaid i ni newid sut rydyn ni'n meddwl a'n siarad am iechyd meddwl, a'n cydnabod beth sy'n mynd ymlaen."
Fe allwch chi glywed mwy am hyn ar MANYLU am 12:30 ddydd Iau, 16 Chwefror. Bydd ailddarllediad am 16:00 brynhawn Sul, 19 Chwefror. Bydd y rhaglen hefyd ar gael ar BBC i-player.