Carwyn Jones yn cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Dewi Sant
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant 2017.
Mae'r gwobrau cenedlaethol yn cydnabod llwyddiannau a chyfraniadau pobl o bob cefndir mewn gwahanol feysydd.
Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn y Senedd ar ddydd Iau, 23 Mawrth.
Wrth gyhoeddi pwy sydd ar y rhestr fer, dywedodd y Prif Weinidog: "Nod Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yw dathlu pobl sydd wedi mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, sydd wedi goresgyn anawsterau neu wedi cyflawni rhywbeth ysbrydoledig.
"Unwaith eto, mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant yn grŵp eithriadol o bobl. Mae pob un ohonynt yn gaffaeliad i Gymru - mae hi'n mynd i fod yn anodd dewis yr enillwyr! Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yn y seremoni wobrwyo ar 23 Mawrth."
Dyma'r rhestr o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwahanol gategorïau: Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon a Pherson ifanc.
Dewrder
Diffoddwyr Tân, Gary Slack a Billy Connor. Ym mis Awst 2016, gwnaeth y diffoddwyr tân, Gary Slack a Billy Connor, herio cerrynt cryf ar Draeth y Castell, Dinbych-y-pysgod, i achub dau blentyn rhag boddi.
PC Christopher Bluck a PC Rhys Edwards, Heddlu De Cymru. Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth y cwnstabliaid Christopher Bluck a Rhys Edwards beryglu eu hunain i achub bywyd menyw a oedd wedi rhoi ei hun ar dân ac a oedd â gwn yn ei llaw.
Diffoddwyr Tân Pontardawe: Ym mis Gorffennaf 2016, galwyd y diffoddwyr tân i dŷ oedd ar dân gyda dau fachgen bach yn methu dianc ohono. Gwnaeth y diffoddwyr frwydro yn erbyn amodau peryglus ac 800 gradd o wres i achub un o'r plant, bachgen tair blwydd oed, o'r tân. Achubwyd ail blentyn o'r tŷ hefyd, ond yn anffodus, bu farw.
Dinasyddiaeth
Cwnstabl Arbennig Cairn Newton-Evans, Heddlu Dyfed-Powys. Ar ôl dioddef trosedd casineb homoffobig, ymunodd Cairn â'r Heddlu er mwyn ceisio rhoi stop ar y math hwn o ymosodiadau rhag digwydd i eraill. Mae Cairn yn wirfoddolwr rheolaidd ac yn eiriolwr brwdfrydig dros hawliau LGBT.
21 Plus, elusen i gefnogi pobl â syndrom Down. Mae'r elusen, sy'n cael ei rhedeg gan dair mam sydd â phlant sydd â syndrom Down, wedi mynd o nerth i nerth dros y deng mlynedd diwethaf.
Anthony Evans, ymgyrchydd addysg i fyfyrwyr anabl. Wedi'i sbarduno wrth geisio gwella addysg ei fab sydd ag anabledd difrifol, mae Anthony wedi ymgyrchu dros addysg ôl-19 i oedolion sydd ag anableddau difrifol. O ganlyniad i ymdrechion Anthony, sefydlwyd coleg dydd i oedolion ifanc anabl yng Nghymru ym mis Medi 2016.
Diwylliant
Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Elfed, sydd wedi bod wrth lyw'r ŵyl am bron 25 mlynedd, wedi sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a datblygu, gan aros yn gyfoes a chroesawgar i bawb.
Yr Athro Jen Wilson, cerddor ac archifydd jazz. Am dros 50 mlynedd, mae Jen wedi chwarae rôl ganolog yn hyrwyddo cerddoriaeth jazz yng Nghymru ac yn dogfennu ei hanes a'i heffaith gymdeithasol - ac yn benodol rôl menywod mewn jazz.
The Cory Band. Wedi'i sefydlu yn Nhreorci yn 1884, mae gan y band pres enw da am ragoriaeth. Fe wnaethant greu hanes yn 2016 drwy fod y band cyntaf i fod yn bencampwyr y cystadlaethau Cenedlaethol, Agored, Ewrop a Brass in Concert a hynny i gyd yr un pryd.
Menter
Llaeth y Llan - The Village Dairy, cynhyrchwyr iogwrt. Mae Llaeth y Llan, busnes teuluol a ddatblygwyd drwy arallgyfeirio fferm yng Nghonwy, yn cynhyrchu iogyrtiau a werthir ledled Cymru a'r DU. Maent yn credu bod eu busnes dim ond mor dda â'u 43 aelod o staff ac maent yn rhoi pwyslais ar hyfforddi a buddsoddi yn y gymuned.
David Banner, Cyfarwyddwr Gemau Fideo. Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr gemau llwyddiannus ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive, mae Dai wedi bod yn rhan bwysig o dwf y diwydiant gemau yng Nghymru. Sefydlodd Sioe Gemau flynyddol Cymru yn 2012 a chreodd y prosiect GamesLab, menter datblygu ddigidol i Brifysgol De Cymru. Mae wedi helpu cannoedd o fyfyrwyr ac mae'n rhoi platfform byd-eang i gwmnïau digidol Cymru.
Halen Môn. Mae'r perchnogion, Alison a David Lea-Wilson, wedi llwyddo i ddechrau busnes cynaliadwy a llwyddiannus sy'n cyflogi pobl leol sydd ag egwyddorion amgylcheddol ac addysgol. Maent hefyd yn denu twristiaid i Ynys Môn.
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Jessica Leigh Jones, astroffisegwr a pheiriannydd. Mae gan Jessica radd mewn astroffiseg ac a enillodd wobr Peiriannydd Ifanc y Flwyddyn yn y DU. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Entrepreneuriaeth Intel Inspiration am ddatblygu cyfres o droswyr ffibr optig newydd. Mae'n eiriolwr ar gyfer y gwyddorau technoleg, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr Cynllun Addysg Beirianneg Cymru ac yn noddi Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn Ysgol Alton Convent.
Yr Athro Meena Upadhyaya OBE, genetegydd. Mae gyrfa Meena, y fenyw Brydeinig gyntaf o dras Indiaidd i fynd yn Athro Prifysgol mewn geneteg feddygol yn y DU, gan ganolbwyntio ar anhwylderau genetig. Mae Meena wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy ei hymchwil feddygol a'i gwaith cymunedol ac elusennol. Derbyniodd OBE yn 2016 am ei gwaith ar eneteg feddygol a thros y gymuned Asiaidd yng Nghymru.
Genesis Biosciences. Mewn marchnad sy'n cael ei dominyddu gan ddeunydd glanhau cemegol caled a pheryglus ar adegau, mae Genesis yn datblygu cynnyrch sy'n ceisio diogelu cwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae'r diwydiant wedi'u gwobrwyo droeon am eu gwaith gan gynnwys Gwobrau Arweinwyr Cynaliadwyedd EDIE 2015 a chategori Busnes Technoleg ac Arloesi'r Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2015.
Rhyngwladol
Dr David Nott OBE, llawfeddyg rhyfel. Bob blwyddyn ers 23 mlynedd, mae David wedi cymryd gwyliau heb dâl o'i swydd fel llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Chelsea a San Steffan i weithio i asiantaethau cymorth a darparu triniaeth lawfeddygol i ddioddefwyr rhyfel a thrychinebau. Mae David a'i wraig, Elly, hefyd wedi sefydlu'r "davidnottfoundation", gan godi cannoedd a miloedd o bunnoedd i elusen a rhoi hyfforddiant llawfeddygol i feddygon ar y rheng flaen.
Nizar Dahan, gwirfoddolwr rhyngwladol. Mae Nizar yn gweithio i'r Human Relief Foundation. Mae wedi cael ei enwebu am ei waith dyngarol rhyngwladol helaeth mewn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid ac am sefydlu Prosiect Ymateb Cymorth Dyngarol Abertawe, sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Yr Athro Carl G. Jones MBE, biolegydd cadwraeth. Mae'r Athro Jones wedi treulio'u holl fywyd yn adfer poblogaethau a chynefinoedd anifeiliaid mewn perygl, ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r cadwraethwyr mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae'n gyfrifol am achub cudyllod cochion Mauritius, tair rhywogaeth o ymlusgiaid, ystlumod ffrwythau a sawl math o blanhigyn rhag diflannu.
Chwaraeon
Tîm Pêl-droed Rhyngwladol Cymru, UEFA Euro 2016. Gwnaeth tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, dan arweiniad Chris Coleman, gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Euros 2016. Roedd y tîm yn gynrychiolwyr o'r radd flaenaf i Gymru, ar y cae ac oddi arno, ac mae eu slogan, "Gorau Chwarae Cyd Chwarae", wedi ysbrydoli'r genedl ac wedi denu diddordeb byd-eang.
Aelodau o Gymru oedd yn rhan o TeamGB yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Rio 2016. Y 24 athletwr o Gymru a ddewiswyd gan TeamGB oedd y garfan fwyaf o athletwyr o Gymru i fynd i Gemau Olympaidd dramor erioed, tra roedd y 26 o athletwyr Paralympaidd o Gymru yn cynrychioli 10% o dîm Prydain Fawr. Roedd 2016 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i athletwyr Cymru. Gwnaethant gynrychioli'r wlad gydag urddas a dewrder.
Anne Ellis OBE, Llysgennad Chwaraeon. Ym mis Gorffennaf 2016, penderfynodd Anne Ellis roi'r gorau i fod yn Llywydd Hoci Cymru ar ôl ugain mlynedd wrth y llyw. Yn ystod y ddau ddegawd, mae Hoci Cymru wedi gweld newidiadau sylweddol ac mae Anne wedi bod yn rhan o bob cam.
Person ifanc
Brittany Davies, gwirfoddolwr gyda phlant sy'n derbyn gofal. Dechreuodd Brittany dderbyn gofal pan oedd yn 16 oed ac er gwaethaf nifer o heriau arwyddocaol a thruenus, mae bellach yn astudio ar gyfer ei harholiadau Lefel Uwch ac yn gwirfoddoli'n rheolaidd i helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Savannah Lloyd, gwirfoddolwr iechyd meddwl. Ar ôl brwydro problemau iechyd meddwl ers pan oedd yn 11 mlwydd oed, mae Savannah yn defnyddio ei phrofiadau i estyn llaw a help i eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Elan Môn Gilford, gwirfoddolwr chwaraeon. Er bod gan Elan, sy'n 18 oed, nam ar ei chlyw, mae'n gwirfoddoli am 8-10 awr yr wythnos i hyfforddi mewn sesiynau chwaraeon, karate i blant a phêl-rwyd. Mae Elan hefyd yn cynnal cwrs iaith arwyddion yn y gymuned.