Eisteddfod Powys: cyfarfod i drafod y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Cyhoeddi Eisteddfod Powys yn Nyffryn Banw yn 1948Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddi Eisteddfod Powys yn Nyffryn Banw yn 1948

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Y Trallwng ddydd Sadwrn i drafod dyfodol Eisteddfod Powys.

Ym mis Tachwedd datgelodd Cymru Fyw nad oes gan Eisteddfod Powys gartref yn 2017, dolen allanol.

Roedd disgwyl i'r eisteddfod fynd i'r Drenewydd, ond gan fod pobl yr ardal wedi bod yn brysur yn hel arian at Eisteddfod Genedlaethol Meifod ddwy flynedd yn ôl, doedd hi ddim yn bosib iddyn nhw letya Eisteddfod Powys eleni.

Ar y pryd dywedodd Beryl Vaughan, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meifod ei bod hi'n cydymdeimlo yn fawr gyda phwyllgor Eisteddfod Powys.

"Dwi'n deall yn iawn," meddai, "ac yn cydymdeimlo'n fawr. Dwi'n deall pam nad oedd ardal Y Drenewydd yn awyddus iawn y tro hwn - mi weithiodd y criw yn ddygn iawn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meifod a chriw bach sy' 'na ohonyn nhw."

Y gobaith felly yw cynnal digwyddiad o fath gwahanol yn Llanfair Caereinion ym mis Hydref.

Fe fydd y digwyddiad hwnnw yn cynnwys gweithdai gwerin a chyfle i grwpiau ifanc yr ardal berfformio.

Y disgwyl yw y bydd y cyfarfod ddydd Sadwrn, a fydd yn cael ei gynnal yng nghapel Cymraeg y Trallwng, yn rhoi sêl bendith ar y digwyddiad ac y bydd dyddiad yn cael ei benderfynu.

'Rhaid meddwl am y dyfodol'

Dywedodd Cofiadur Eisteddfod Powys, Edwin Hughes: "Ddydd Sadwrn fe fyddwn yn gobeithio cael cefnogaeth i'r cynlluniau yn Llanfair Caereinion ond mi fyddwn ni hefyd yn edrych tuag at y dyfodol.

"Mae'n mynd yn anoddach i gael ardaloedd i letya'r eisteddfod - un opsiwn o bosib yw gweithredu mwy gyda Chymdeithas Eisteddfodau Cymru.

"Ers y cyhoeddiad na fydd eisteddfod yn cael ei chynnal yn 2017 - mae rhai wedi datgan eu siom.

"Ond ar y llaw arall mae nifer yn croesawu gŵyl werin yn Llanfair Caereinion gan ddweud bod gŵyl o'r fath hefyd yn hybu diwylliant.

"Mae'r cyfansoddiad yn gorchymyn i ni gynnal eisteddfod yn achlysurol ac mae'n rhaid meddwl sut mae hynny yn mynd i fod yn bosib.

"Flwyddyn nesaf ry'n yn hyderus y bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal yn Y Drenewydd - ac fe fydd ardal Llanidloes hefyd yn cynorthwyo gyda hel arian.

"Ond y peth pwysicaf ddydd Sadwrn fydd trafod y cynlluniau ar gyfer y dyfodol," meddai Mr Hughes.