Caniatáu'r Gymraeg yn nadleuon seneddol San Steffan

  • Cyhoeddwyd
San Steffan

Bydd Aelodau Seneddol yn cael siarad Cymraeg mewn dadleuon seneddol ym Mhalas San Steffan am y tro cyntaf erioed.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin gyhoeddi adroddiad oedd yn dweud nad oedden nhw'n gweld rhwystr technegol pam na ellid defnyddio'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg yn sesiynau'r Uwch Bwyllgor Cymreig.

Bellach mae Llywodraeth y DU wedi cytuno, gan ddweud y bydd yn cyflwyno cynnig fydd yn galluogi ASau i siarad Cymraeg yng nghyfarfodydd y pwyllgor.

Yr unig adeg mae gan ASau hawl i siarad Cymraeg yng ngweithgareddau'r Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd yw pan fydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn casglu tystiolaeth.

Mae cynnal gweithgareddau'r Uwch Bwyllgor Cymreig yn ddwyieithog yn golygu y bydd modd defnyddio'r Gymraeg mewn dadleuon byr, wrth graffu ar ddeddfwriaeth ac wrth holi gweinidogion yn San Steffan am y tro cyntaf erioed.

'Hanfodol bwysig'

Dywedodd Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, David Lidington: "Mae ASau yn chwarae rôl hanfodol drwy sicrhau bod lleisiau eu hetholwyr yn cael eu clywed yn Nhŷ'r Cyffredin.

"Ledled Whitehall, mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn ymateb, fel rydym ni'n ei wneud trwy hybu'r iaith Gymraeg yn y Senedd a'i chyfraniad tuag at amrywiaeth ddiwylliannol yn y Deyrnas Unedig."

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: "Rydw i wrth fy modd y bydd ASau yn medru cyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig am y tro cyntaf yn San Steffan. Mae'n hanfodol bwysig fod pobl Cymru yn gallu gwrando ar ddadleuon yn y ddwy iaith.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ASau sy'n gallu siarad Cymraeg yn gwneud defnydd o'r gwasanaeth hwn er mwyn helpu i hybu'r Gymraeg yn y Senedd."

Bydd cost y gwasanaeth cyfieithu, gan gynnwys y cyfieithwyr a'r clustffonau, yn dod allan o gyllideb bresennol y Senedd, sy'n golygu na fydd y newidiadau hyn yn dod ar gost ychwanegol i'r trethdalwyr.