Trafod cytundeb i redeg Stadiwm Liberty yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru'n deall fod cynghorwyr yn Abertawe'n gobeithio y caiff cytundeb i redeg Stadiwm Liberty yn y ddinas ei gwblhau cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai.
Cyngor Abertawe oedd yn gyfrifol am adeiladu'r stadiwm am £27m, ac mae clwb pêl-droed Abertawe a chlwb rygbi'r Gweilch wedi chwarae yno ers 2005.
Mae perchnogion clwb Abertawe, sydd o'r UDA, wedi cynnal trafodaethau answyddogol gyda'r cyngor ers iddyn nhw brynu'r clwb yr haf diwethaf.
Ond mae disgwyl y bydd cais yn cael ei wneud i gabinet y cyngor ddydd Iau i ganiatâu trafodaethau swyddogol rhwng y cyngor a'r clwb.
Ar hyn o bryd mae'r Elyrch a'r Gweilch yn talu rhent rhad i gwmni Swansea Stadium Management Company (SSMC) - corff sy'n rhedeg y stadiwm mewn partneriaeth rhwng y cyngor a'r ddau glwb.
Ond wythnos diwethaf fe ddywedodd arweinydd y cyngor Rob Stewart nad oedd SSMC yn "addas ar gyfer ei bwrpas bellach" yn dilyn llwyddiant a thwf y ddau glwb.
Mae perchnogion clwb Abertawe am dalu prydles am y stadiwm gan chwilio am ffyrdd o ehangu cyfleoedd masnachol, gan gynnwys hawliau i enwi ac ymestyn y stadiwm.
Mae'n debyg fod nifer o agweddau o'r cytundeb posib wedi cael eu trafod yn barod, ac fe allai hyn gyflymu'r broses yn y pen draw.