Ateb y Galw: Osian Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Osian Gwynedd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Emyr Huws Jones.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Arogl tomatos yn nhŷ gwydr taid.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Lois Lane.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ar ôl cwpl o ddyddia' cynta' yn fy ysgol newydd, penderfynu rhoi gel fel pawb arall yn y gwallt. Yn anffodus, showergel oedd o. Ar ôl cawod drwm o law, roedd gen i affro bybls!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Genedigaeth fy merch, Meri.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi gwinedd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mynd am dro i fwthyn o'r enw Uwchfot ar lethrau'r Eifl, Trefor, ac edrych lawr ar y byd. Yn y fan honno y cafodd fy nhaid ei fagu.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Genedigaeth fy merch!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Triw, bodlon a phen-galed.
Beth yw dy hoff lyfr?
Papillon.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Trump, wedi marw.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Set Fire To The Stars- gesh i'r fraint a'r pleser o gyd-weithio efo Gruff Rhys yn creu'r soundtrack.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Hel atgofion a meddwi.
Dy hoff albwm?
Gorfod bod yn Pet Sounds y Beach Boys. Un o fy prize assets ydy bocs set wedi ei arwyddo gan Brian Wilson.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin,a be fyddai'r dewis?
Prif gwrs. King prawns, chips, salad ac aioli.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Jaco - brawd mawr Meri. Mae math o awtistiaeth arno, a mae'r ffordd y mae'n gweld y byd yn wahanol a unigryw. Byddai hi'n ddiddorol gweld y byd trwy ei lygaid o.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Rhodri Sion.