397 o ffoaduriaid o Syria wedi ailgartrefu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Roedd rhai o'r ffoaduriaid sydd yng Nghymru yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach ym mis Awst
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref, mae o leiaf 397 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi eu hailgartrefu yng Nghymru.
Roedd 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn ffoaduriaid o dan gynllun Ailgartrefu Pobl Bregus Syria gan Lywodraeth y DU erbyn diwedd Rhagfyr y llynedd.
Mae rhai cynghorau wedi cael eu beirniadu am fod yn araf yn ailgartrefu pobl.
Daeth croeso i'r ffigyrau gan elusen Oxfam Cymru.
Dywedodd Matthew Hemsley ar ran yr elusen: "Mae gan Gymru hanes balch o groesawu pobl mewn angen ac mae'n bwysig gweld y traddodiad yna'n parhau."
Yn ail hanner 2016 y daeth y mwyafrif o ffoaduriaid i Gymru, sef 285. Mae cyfanswm y ffoaduriaid i gael eu derbyn i'r DU yn 5,454.
Yng Nghymru, mae'r nifer o ffoaduriaid i gael eu derbyn gan y cynghorau unigol fel a ganlyn:
- Ynys Môn - 4; 
- Blaenau Gwent - 10; 
- Pen-y-bont ar Ogwr - 6; 
- Caerffili - 12; 
- Caerdydd - 26; 
- Sir Gaerfyrddin - 33; 
- Ceredigion - 23; 
- Conwy - 3; 
- Sir Ddinbych - 5; 
- Sir y Fflint - 5; 
- Gwynedd - 12; 
- Merthyr Tudful - 8; 
- Sir Fynwy - 15; 
- Castell-nedd Port Talbot - 52; 
- Casnewydd - 10; 
- Sir Benfro - 0; 
- Powys - 44; 
- Rhondda Cynon Taf - 34; 
- Abertawe - 45; 
- Torfaen - 15; 
- Bro Morgannwg - 15; 
- Wrecsam - 20. 

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2017
  
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2016
  
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
  
- Cyhoeddwyd25 Awst 2016
 