Canolfan ymwelwyr Brymbo gam yn nes
- Cyhoeddwyd

Cafodd gwaith dur Brymbo ei gau yn 1990
Mae'r cynlluniau i drawsnewid cyn-waith dur Brymbo yn Wrecsam i ganolfan ymwelwyr gam yn nes.
Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo wedi derbyn £50,000 er mwyn ariannu cynlluniau pensaernïol i drawsnewid adeilad y Siop Beiriannau o'r 1920au.
Gobaith yr Ymddiriedolaeth yw bydd y cynlluniau yn denu £1.15m o Gronfa'r Loteri Fawr.
Y bwriad yw ail-ddefnyddio naw adeilad gan agor canolfan dreftadaeth ac unedau busnes.
Ar un adeg roedd y safle yn cyflogi 2,500 o bobol.
Cafodd y gwaith ei gau yn 1990 ar ôl bod yn cynhyrchu dur am bron i 200 mlynedd.

Llun artist o adeilad y Siop Beiriannau