Map etholaethau: Cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriad
- Cyhoeddwyd
Bydd y Comisiwn Ffiniau yn cyhoeddi'r holl ymatebion i ymgynghoriad ar newid ffiniau etholaethol Cymru ddydd Mawrth.
Pan fydd hynny wedi digwydd, bydd cyfnod arall o bedair wythnos i ganiatáu i bobl ddarllen yr ymatebion a rhoi sylwadau arnyn nhw.
Cafodd argymhellion am newidiadau eu cyhoeddi ym mis Medi'r llynedd, ac maen nhw'n golygu y byddai nifer yr aelodau seneddol yng Nghymru yn gostwng o 40 i 29.
Byddai'r etholaethau newydd yn fwy, ac fe fyddai pob etholaeth yng Nghymru yn debycach i'w gilydd o ran maint poblogaeth.
Toriad mwyaf
Mae'r cynllun newydd wedi cael ei ddylunio gan Gomisiwn Ffiniau i Gymru gan ddefnyddio fformiwla gafodd ei gosod gan lywodraeth glymbleidiol y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe fydd ffiniau etholaethol yn newid ar draws y DU, wrth i nifer y seddi yn Nhŷ'r Cyffredin ostwng o 650 i 600.
Ond Cymru fydd yn gweld y toriad mwyaf ymysg pedair gwlad y DU.
Mae'n rhaid i bob etholaeth newydd gael o leiaf 71,031 o etholwyr. Ar hyn o bryd, dim ond un o'r 40 etholaeth yng Nghymru sydd â mwy na hynny.
Pe bai'r cynllun newydd yn cael ei gyflwyno erbyn etholiad cyffredinol 2020, byddai'n golygu na fyddai San Steffan a'r Cynulliad yn rhannu'r un etholaethau.
Y Blaid Lafur - a enillodd 25 sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf - sy'n debygol o ddioddef fwyaf o'r newidiadau arfaethedig.
Byddai pleidiau eraill yn colli rhywfaint hefyd, ond mae rhai sylwebwyr yn darogan mai dim ond rhyw 12 sedd ddiogel fyddai gan Lafur ar ôl os daw'r ffiniau newydd i rym.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2016
- Cyhoeddwyd13 Medi 2016
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2016