Adroddiad OECD: Angen parhau â'r newid cwricwlwm

  • Cyhoeddwyd
Plant ysgol ar gyfrifiadur

Mae'r corff sy'n cynhyrchu canlyniadau rhyngwladol PISA ar gyfer ysgolion yn dweud y dylai Cymru barhau gyda chynlluniau i ad-drefnu'r cwricwlwm.

Ond maen nhw hefyd yn dweud bod angen sicrhau buddsoddiad cynaliadwy i godi safonau addysgu.

Roedd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi gofyn i gorff OECD werthuso'r newidiadau ar gyfer addysg yng Nghymru.

Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau i newid y cwricwlwm presennol am fframwaith addysgu newydd.

Disgrifiad,

Profion PISA: Sut siâp oedd ar addysg yng Nghymru yn 2016?

Yn eu hadroddiad, gafodd ei cyhoeddi fore Mawth, mae'r OECD hefyd yn dweud bod cryfhau datblygiad penaethiaid ysgolion yn allweddol i lwyddiant y newidiadau, ynghyd â buddsoddi yn y proffesiwn.

Mae Kirsty Williams wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud ei bod hi eisoes yn gweithredu nifer o'r argymhellion.

Roedd canlyniadau disgyblion Cymru yn y profion PISA diweddaraf yn is na'r cyfartaledd rhyngwladol, ac yn waeth na gwledydd eraill y DU.