Teuluoedd Y Waun yn dwyn achos yn erbyn Kronospan

  • Cyhoeddwyd
Kronospan

Mae dros 70 o deuluoedd yn Y Waun ger Wrecsam yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn cwmni Kronospan gan honni fod llwch o'r gwaith yn cael effaith andwyol arnyn nhw.

Mae'r gwaith, sy'n cynhyrchu paneli coed, yn cyflogi tua 600 o bobl.

Bydd cyfreithwyr o gwmni Hugh James, sy'n cynrychioli'r teuluoedd, yn cynnal cyfarfod yn Y Waun ddydd Iau.

Mae Kronospan yn dweud eu bod yn cymryd eu cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif.

'Tryloywder'

Kronospan yw un o'r cyflogwyr mwyaf a phwysicaf yn ardal Y Waun.

Mae trigolion lleol wedi bod yn honni ers tro fod llwch o'r gwaith yn effeithio arnyn nhw.

Un o'r rhai sy'n byw gerllaw yw'r cyn-aelod cynulliad Eleanor Burnham: "Be' mae pobol isio yw tryloywder a gwybod yn union fod monitro yn digwydd.

"Dwi'n meddwl bod lot o lwch o gwmpas y lle a dwi'm yn siŵr sut mae hyn yn gyrru ymlaen, ond o'n nhw fod i gwtogi'r llwch sy'n chwythu o gwmpas a rhoi o mewn sied. Dwi'n lwcus yn fan hyn - dydi o ddim yn pryderu fi oherwydd mae'r gwynt yn chwythu i'r ochr arall ond mae 'na lwch."

Eleanor Burnham
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-Aelod Cynulliad Eleanor Burnham yn galw am dryloywder

Cwmni Hugh James sy'n cynrychioli'r teuluoedd, ac yn ôl Tomos Lewis sy'n gyfreithiwr i'r cwmni, prif bwrpas yr achos yw "sicrhau bod y problemau yn dod i ben cyn gynted â phosib".

"Mewn achosion yn y gorffennol, rydyn ni wedi gallu cytuno efo gweithredwyr safleoedd eraill ar gamau priodol er mwyn dod â'r achos i ben cyn mynd ger bron y llys.

"Os nad yw'n bosib dod i gytundeb mae'n bosib gofyn i'r llys orchymyn gweithredwyr y safle i gymryd camau i ddod â'r niwsans i derfyn. Dwi'n ffyddiog ar hyn o bryd y byddwn i'n gallu cytuno ac na fydd rhaid mynd i'r llys."

Cydweithio

Dywedodd llefarydd ar ran Kronospan bod y cwmni yn cymryd eu cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif a'u bod yn cydweithio â chorff Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Wrecsam er mwyn sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny yn cael eu cyflawni.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn monitro ansawdd yr aer yn annibynnol ac wedi derbyn ein cydweithrediad.

"Mae gan y cwmni record hir o fuddsoddi'n sylweddol yn Y Waun.

"Rydym wedi ein hymrwymo i ostwng yr effaith y mae ein gweithgaredd yn ei gael ar yr amgylchedd a phobl leol, ac felly rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol er mwyn moderneiddio'r safle i sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir."