Tollau Trump yn 'sefyllfa drist iawn' i fusnes Cymreig

Sam Dunt
Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni wedi 'neud ffrindiau go iawn dros y blynyddoedd yn America," meddai Sam Dunt o Halen Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad yr Arlywydd Donald Trump i roi tollau ar allforion i'r Unol Daleithiau yn "sefyllfa drist iawn" i rai busnesau Cymreig.

Dyna ddywedodd Sam Dunt o gwmni Halen Môn wedi i'r Arlywydd Trump gyhoeddi y bydd toll - sef math o dreth - o 10% yn cael ei roi ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio o Brydain.

Tu allan i'r Tŷ Gwyn, cyhoeddodd yr Arlywydd Trump fod rhai gwledydd yn wynebu tollau llawer llymach o hyd at 50% o ddydd Sadwrn ymlaen.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Dunt fod y tollau wedi creu "lot o ansicrwydd" i'r cwmni.

'Obama yn rhoi'r halen ar siocled'

Ar un pwynt roedd Halen Môn yn allforio 37% o'u cynnyrch i'r UDA ond mae'r ffigwr bellach wedi cwympo i 17%, yn ôl Mr Dunt.

"Ry'n ni wedi 'neud ffrindiau go iawn dros y blynyddoedd yn America, ac mae'n drist iawn meddwl gallai'r tollau newid hynny," meddai.

"Un o'n cwsmeriaid ni oedd yr Arlywydd Obama. Roedd o wedi prynu'r halen i roi ar siocled pan oedd pobl yn dod i'r Tŷ Gwyn.

"Mae'n eironig i glywed y newyddion bore 'ma, bod pethau wedi newid, bod 'na sheriff newydd yn y Tŷ Gwyn."

Donald TrumpFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arlywydd Trump wedi cyhoeddi y bydd toll o 10% ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio i America o Brydain

Bydd yn rhaid i'r cwmni wneud penderfyniadau yn sgil y tollau o ran ble maen nhw'n allforio eu cynnyrch ac i fod yn llai dibynnol ar farchnad yr UDA, yn ôl Mr Dunt.

"Mae 'na lot o ansicrwydd. Ry'n ni wedi siarad bore 'ma hefo'r masnachwyr yn America sydd yn gwerthu'r halen," meddai.

"Does ganddyn nhw ddim clem ar y foment sut y bydd pethau'n cael eu heffeithio. Lot o ansicrwydd o gwmpas gwerthu'r halen tu fewn i America.

"Mae ein dosbarthwyr yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r products 'da ni'n creu, ond mae'n sefyllfa drist iawn."

cynnyrch Halen MonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Halen Môn fod yn llai dibynnol ar farchnad yr UDA, yn ôl Mr Dunt

Ar ôl wythnosau o ddisgwyl - mae gwledydd ar hyd a lled y byd bellach yn gwybod faint o dollau fydd ar allforion i'r Unol Daleithiau.

Mae'r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd toll o 10% ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio o Brydain - ac y bydd 20% o dollau ar unrhyw nwyddau o wledydd yr Undeb Ewropeaidd o ddydd Sadwrn ymlaen.

Mae pob gwlad ar draws y byd yn wynebu isafswm o doll o 10% gyda rhai gwledydd yn cael tollau llawer llymach o hyd at 50%.

Aeth Donald Trump ymlaen i egluro bod gwledydd fel China, Mecsico a Chanada yn cael tollau uwch am nad ydyn nhw wedi bod yn "deg" gyda'r Unol Daleithiau gan addo ei etholwyr bod "oes aur" o'u blaenau.

Mae arweinwyr gwledydd ar hyd a lled y byd wedi ymateb i'r cyhoeddiad - gyda Llywodraeth San Steffan yn datgan eu bod am barhau gyda'u trafodaethau i sicrhau cytundeb masnach fyddai'n lleihau'r tollau.

Yn y cyfamser mae ffederasiwn busnesau'r CBI yn dweud bod hyn yn "bryderus iawn i fusnesau" gyda phennaeth Siambr Fasnach Prydain yn rhybuddio bod "pawb ar eu colled ac y bydd archebion yn cwympo, prisiau yn cynyddu a'r galw economaidd am nwyddau byd eang yn gwanhau".

Mae ysgrifennydd economi Cymru, Rebecca Evans, yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr o'r CBI a Ffederasiwn y Busnesau Bach fore Gwener i drafod oblygiadau'r tollau.

'Pryderus iawn'

Dywedodd Ms Evans: "Er ei bod yn rhywfaint o ryddhad i weld bod y tariffau a fydd ynghlwm wrth fewnforion o'r DU yn is na'r tariffau ar gyfer rhai gwledydd a blociau masnachu eraill, fel yr UE, rwy'n parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith y byddant yn ei chael ar ein busnesau yng Nghymru.

"Mae tariff o 10% yn cynrychioli cynnydd sylweddol ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion ac, er y gallai rhai o'n hallforwyr allweddol elwa ar eithriadau, bydd effaith y tariffau hyn yn bellgyrhaeddol ac yn effeithio ar bron pob un o'n busnesau sy'n allforio i'r Unol Daleithiau.

"Er bod Llywodraeth y DU wedi lansio cais am fewnbwn ar oblygiadau tariffau posibl i wrthymateb ar gyfer busnesau Prydain, rwy'n deall nad oes bwriad ar hyn o bryd i wrthymateb i'r tariffau newydd hyn ac mai'r nod yw ceisio taro bargen gyda'r Unol Daleithiau a allai arwain at eu lleihau.

"Rydym yn gobeithio bod modd cyflawni hyn yn fuan iawn, ac rwy'n parhau i gefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU."

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru "yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth y DU wrth i'r sefyllfa ddatblygu ac wrth i effaith bosibl y tariffau hyn ddod yn gliriach".

Dadansoddiad

Dyma ddechrau cyfnod pryderus i fusnesau Cymru.

Bydd effaith tollau newydd yr Arlywydd Trump yn cyffwrdd lawer mwy na'r cwmnïau hynny sydd yn allforio nwyddau i'r Unol Daleithiau.

Ac eto, mae yna ochenaid o ryddhad gan rai sy'n teimlo bod y Deyrnas Unedig wedi'i thrin yn well nag eraill – fel yr Undeb Ewropeaidd – wrth gael tariff o 10% yn unig.

Dydy hynny'n fawr o gysur i rai sectorau penodol economi Cymru.

Bydd y tariff presennol o 25% yn dal i fod yn berthnasol i fewnforion metelau fel dur ac alwminiwm i America, tra bod cwmnïau Cymreig yn y gadwyn gyflenwi ceir hefyd yn debygol o deimlo'r ergyd o 25% fydd yn taro cerbydau.

'Gan bwyll' ydy mantra Llywodraeth y DU wrth ystyried ymateb i'r drefn newydd, un mae arweinwyr busnes yn barod i dderbyn - am y tro.

Pynciau cysylltiedig