Gwynedd eisiau gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg pob ysgol

- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yn y sir yn y dyfodol.
Bwriad y cynllun newydd yw bod ffrydiau cyfrwng Saesneg yn dod i ben yn raddol fel rhan o adolygiad mwyaf o bolisi addysg y sir mewn mwy na 40 mlynedd.
O dan y drefn newydd fe fyddai'r Gymraeg yn dod yn brif iaith addysg holl blant ysgolion y sir.
Bydd y mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Addysg a'r Economi ddydd Iau, 10 Ebrill.
Bydd yn rhaid craffu ar y newidiadau arfaethedig yng nghabinet y cyngor a'r cyngor llawn cyn i unrhyw newid ddigwydd a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal hefyd.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod y cynllun yn "hollol annerbyniol" ac y bydd ond yn llwyddo i "droi pobl i ffwrdd o'r iaith Gymraeg".
Tair ysgol yn 'ysgolion pontio'
Ar hyn o bryd mae tair ysgol yn y sir yn cael eu categoreiddio fel "ysgolion Categori 3T" neu "ysgolion pontio" sy'n symud tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg lawn.
Y rhain ydy Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Uwchradd Tywyn ac Ysgol Ein Harglwyddes, sy'n ysgol gynradd Gatholig ym Mangor.
Mae'r Gymraeg eisoes yn brif gyfrwng yng ngweddill y 90 a mwy o sefydliadau addysgol y sir.
Byddai'r plant sy'n symud i'r sir o ardaloedd di-Gymraeg yn cael eu cyfeirio at gynllun trochi'r cyngor.
Byddai'r prif newidiadau yn golygu:
fod addysg cyn ysgol yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg;
y bydd holl ddisgyblion Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Blwyddyn 2 yn cael eu haddysgu a'u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg;
y bydd ysgolion yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd, y tu mewn a'r tu allan i'r dosbarth;
o Flwyddyn 3 ymlaen, bydd o leiaf 80% o weithgareddau addysgol y disgyblion (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg;
mewn ysgolion uwchradd, Cymraeg fydd prif iaith addysg pob disgybl hyd at 16 oed;
bod Saesneg yn parhau i gael ei chyflwyno fel pwnc a chyfrwng dysgu rhai elfennau trawsgwricwlaidd.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
'Dim newid dros nos'
Mae disgwyl i ysgolion sicrhau fod pob disgybl (Blynyddoedd 2-9) sy'n hwyrddyfodiaid a siaradwyr Cymraeg newydd yn cael eu cyfeirio i System Addysg Drochi Gwynedd.
Bydd plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfle cyfartal ieithyddol yn unol â'r polisi.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd deilydd portffolio addysg Cyngor Gwynedd, Dewi Jones: "Mae'r polisi addysg sydd genna ni ar hyn o bryd wedi bod mewn lle ers 1984... ac ar ôl 41 mlynedd mae'n amser i adolygu unrhyw bolisi ac i edrych arno eto."
Dywedodd does dim "cyfnod penodol" i ysgolion Categori 3T i symud tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg lawn.
Ond bydd "cynllun blynyddol" i ystyried y ddarpariaeth yn y tair ysgol - sef Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Uwchradd Tywyn ac Ysgol Ein Harglwyddes - yn y categori hwn.

"Dwi ddim eisiau i neb fod yn poeni am ei swydd... fydd 'na gefnogaeth yna ac anogaeth yna hefyd i athrawon," medd y Cynghorydd Dewi Jones
Dywedodd y cynghorydd na fydd yn ofynnol "yn syth bin" i athrawon di-Gymraeg ddysgu Cymraeg.
"Fydd 'na ddim newid dros nos yn digwydd... a hefyd mae'r polisi yma, fersiwn drafft ydi o ar hyn o bryd - mi fydd nifer o bethau fel hyn i drafod yn ystod yr ymgynghoriad.
"Dwi ddim eisiau i neb fod yn poeni am ei swydd... fydd 'na gefnogaeth yna ac anogaeth yna hefyd i athrawon."
Ychwanegodd bod system drochi i ddisgyblion di-Gymraeg sy'n symud i Wynedd a fydd achosion yn cael ei ystyried ar sail sefyllfa unigolion.
'Hollol annerbyniol'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar: "Mae cael gwared ar y cyfle i rieni a disgyblion ddewis cael eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn hollol annerbyniol.
"Tra fy mod yn cefnogi'n llwyr mynediad i addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, dylai selogion ieithyddol gofio bod dwy iaith swyddogol yn ein gwlad a dylai pob cyngor lleol ac awdurdod addysg ddarparu ar eu cyfer; Saesneg a Chymraeg.
"Y math yma o bolisi sy'n gwthio pobl i ffwrdd o'r Gymraeg a dwi eisiau i bobl gofleidio'r iaith."