Ymgyrch i wneud 'Y Wal Goch' yn groesawgar i bawb

Roedd Joe Ledley, enillodd 77 o gapiau, yn rhan o bennod gyntaf 'Siarad Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch newydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn ceisio hybu amgylchedd cynhwysol wrth ddilyn y timau cenedlaethol.
Mae'r bennod gyntaf yng nghyfres 'Siarad Cymru' yn cynnwys trafodaeth rhwng y cyn-chwaraewr rhyngwladol Joe Ledley a chefnogwyr Cymru am brofiadau cefnogwyr benywaidd, a sut i greu amgylchedd mwy diogel i ferched.
Dywedodd Ledley fod "rhaid i ni gydnabod bod yna rwystrau o hyd sy'n gwneud i bêl-droed deimlo'n llai croesawgar i rai".
Yn ôl CBDC, mae'r ymgyrch yn ceisio meithrin deialog agored a gonest am ddiwylliant cefnogi Cymru a'r cyfleoedd i'w wneud yn fwy cynhwysol.
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
Wrth rannu ei safbwynt fel cyn-chwaraewr a thad, dywedodd Ledley: "Rwyf wedi cael rhai o'r profiadau gorau yn fy mywyd gyda'r Wal Goch, ac mae angerdd cefnogwyr Cymru heb ei hail.
"Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod yna rwystrau o hyd sy'n gwneud i bêl-droed deimlo'n llai croesawgar i rai.
"Mae'n bwysig i bob cefnogwr ddod at ei gilydd, gofalu am ei gilydd a sicrhau bod pob cefnogwr yn teimlo'n ddiogel, wedi'i gynnwys ac yn falch o fod yn rhan o'r gymuned anhygoel hon."

Mae cynnydd wedi ei wneud ar y cae, ac oddi ar y cae, yn ôl Llywela Edwards
Mae criw o gefnogwyr brwd sy'n chwarae i glwb pêl-droed merched Y Felinheli yn croesawu'r ymgyrch, ac am i sefydliadau eraill ddilyn esiampl.
Mae Llywela Edwards, 26, wedi bod yn gwylio sawl gêm.
"Weithia' dwi'n gorfod cerdded i'r stadiwm ar ben fy hun ac felly mae'n rhaid bod yn fwy gwyliadwrus a gofalus mewn torf mwy," meddai
"Mae gemau oddi cartref yn gallu bod yn wahanol hefyd gan fod gan rai gwledydd wahanol agweddau tuag at ferched.
"Yn sicr mae pethau wedi datblygu i ferched o fewn a thu allan i bêl-droed i wneud yn siŵr bod merched yn cael eu cynnwys, a dwi'n meddwl bod taith y merched i'r Euros yn adlewyrchu hynny."

Dywedodd Elsi y gallai'r ymgyrch helpu hyrwyddo pêl-droed merched
Mae Elsi, 16, hefyd yn cefnogi ymgyrch y gymdeithas.
"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn wrth i bêl-droed merched ddatblygu," meddai.
"Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo'r gêm i ferched ac yn ei wneud yn fwy croesawgar."
Yn ôl Fflur Williams, 23, mae pethau wedi newid er gwell i ferched yn y gamp.
"Ma' 'na fwy o ferched yn chwarae pêl-droed yn gyffredinol," meddai.
"Hyd yn oed mewn ysgolion ma' na fwy o glybiau ar ôl ysgol i hybu merched i chwarae pêl-droed."

Mae pethau wedi newid er gwell i ferched yn y gamp, meddai Fflur Williams
Dywedodd Natalie Chamberlin, uwch reolwr diogelu a lles chwaraewyr CBDC, eu bod am i bawb deimlo yn ddiogel mewn gemau.
"Mae Siarad Cymru yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, annog sgyrsiau agored a sicrhau bod pêl-droed yn parhau i fod yn groesawgar i bawb.
"Rydym eisiau grymuso cefnogwyr i herio ymddygiad amhriodol yn ddiogel ac i feithrin diwylliant cadarnhaol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys.
"Mae hefyd yn hollbwysig bod cefnogwyr yn teimlo'n hyderus i adrodd unrhyw ddigwyddiadau o wahaniaethu yng ngemau Cymru."
'Rhaid i ni barhau i ddysgu'
Ychwanegodd Macsen Jones, swyddog ymgysylltu â chefnogwyr: "Mae ein Wal Goch yn enwog am ei chefnogaeth anhygoel, yn enwedig ers taith Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.
"Ond fel corff llywodraethu, rhaid i ni barhau i ddysgu o brofiadau byw ein cefnogwyr i sicrhau bod pêl-droed yn lle i bawb.
"Trwy Siarad Cymru, rydym yn annog sgyrsiau agored i adeiladu diwylliant diwrnod gêm fwy cynhwysol.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella ein systemau adrodd, sy'n ein helpu i nodi a mynd i'r afael â digwyddiadau o wahaniaethu yn well.
"Trwy rannu'r straeon hyn, gallwn barhau i wneud newidiadau cadarnhaol a sicrhau bod pob cefnogwr Cymru yn teimlo'n ddiogel ac wedi'i gefnogi."
Bydd penodau eraill yn y gyfres yn rhoi llwyfan i gefnogwyr mewn cymdeithas ehangach, gan drafod pynciau eraill sy'n gallu cael effaith ar brofiadau cefnogwyr, gan gynnwys hiliaeth, iechyd meddwl a'r gymuned LHDTC+.