Defnydd cyffuriau gorsaf bws Wrecsam yn 'frawychus'
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor wedi dweud bod gwelliannau "sylweddol" wedi digwydd ar ôl i luniau brawychus yn dangos defnydd cyffuriau mewn gorsaf bws yng ngogledd Cymru gael eu cyhoeddi.
Gyrrwr bws wnaeth gyhoeddi'r lluniau, sydd o orsaf Wrecsam ac yn dangos nodwyddau ac offer yn ymwneud â chyffuriau a phobl sydd i weld dan ddylanwad cyffuriau.
Dywedodd y gyrrwr, Gavin Rodda: "Roedd yr holl offer o fewn cyrraedd plentyn."
Yn ôl Cyngor Wrecsam, mae mwy o weithwyr diogelwch ar y safle, ac mae cynghorwyr yn ystyried ail-ddylunio'r orsaf.
Ar wefan Facebook, dywedodd Mr Rodda bod y lluniau yn "frawychus" ond eu bod yn dangos "realiti bob dydd i'r bobl sy'n defnyddio yno, a'r llanast sy'n cael ei adael i'r cyhoedd ei weld".
"Dwi am i bobl weld hyn a dod at ei gilydd i ddatrys y broblem cyffuriau sydd yn Wrecsam ar hyn o bryd," meddai.
Ychwanegodd bod llawer o bobl sy'n gweithio yn yr orsaf yn teimlo'n anniogel, a bod teithwyr hyn sy'n defnyddio'r orsaf hefyd yn teimlo'n debyg.
"Dros y ddwy flynedd diwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn y digwyddiadau o gwmpas yr orsaf.
"Mae mesurau wedi eu cyflwyno gan y cyngor, ond dydyn nhw ddim yn gweithio."
Dywedodd Hugh Jones, aelod cabinet dros gymunedau ar Gyngor Wrecsam, nad yw'r lluniau yn dangos "y gwelliannau sylweddol" sydd wedi eu gwneud.
"Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff fel Cais a'r Wallich i sicrhau bod pobl yn cael eu gyrru tuag at wella, felly rydyn ni'n defnyddio'r gyfraith a gwasanaethau i daclo'r broblem," meddai.
Ychwanegodd Mr Jones bod problem fawr gyda chyffuriau "cyfreithlon", ac nad oedd modd taclo'r broblem drwy ddulliau cyfreithiol.
"Mae'n dod yn her rŵan achos bod lot o'r bobl yma yn Wrecsam yn cymryd y cyffuriau cyfreithlon yma, ac yna mae'n rhaid i ni ddelio gyda nhw yn y math yma o gyflwr."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y bwrdd wedi ymrwymo i "leihau'r difrod sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, i'r defnyddiwr unigol ac i'r cymunedau lle maen nhw'n byw".
Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref, mae'r hyn sy'n cael eu galw'n gyffuriau cyfreithlon wedi eu gwahardd "gan nad ydyn nhw'n ddiogel, maen nhw'n gallu dinistrio bywydau a byddwn ni ddim yn eu derbyn yn y wlad yma".