Y Frenhines yn urddo Syr Bryn Terfel ym Mhalas Buckingham
- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr opera Bryn Terfel wedi ei urddo'n farchog gan y Frenhines mewn seremoni ym Mhalas Buckingham ddydd Mawrth.
Wedi ei fagu ar fferm ym Mhant Glas yn Nyffryn Nantlle, mae Syr Bryn wedi cael ei urddo'n farchog am ei wasanaethau i gerddoriaeth.
Ar ôl y seremoni, dywedodd bod cael ei urddo yn "hwb enfawr".
Mae Syr Bryn yn un gantorion mwyaf adnabyddus y byd opera, ac yn sylfaenydd Gŵyl y Faenol, gafodd ei chynnal rhwng 2000 a 2010.
'Llysgennad i gerddoriaeth'
"O'n i'n falch i gychwyn bod gen i ddiwrnod rhydd yn yr ymarferion", meddai ar ôl cael ei urddo.
"Dwi'n canu ar y funud yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden - rhan enfawr Hans Sachs yn y Meistersinger [opera gan Richard Wagner].
"Roedd y Frenhines yn gwybod yn sicr 'mod i'n ei berfformio, achos roedd hi'n gofyn sut ar y ddaear mae rhywun perfformio am chwe awr.
"Ond o ran [bod yn] llysgennad i gerddoriaeth a hybu Cymru, mae bod yn farchog - dwi wedi gweld dros y chwe mis diwethaf - yn hwb enfawr."
Roedd aelodau o deulu Syr Bryn hefyd yn bresennol yn y palas ddydd Mawrth.