Neil McEvoy AC wedi ei wahardd o grŵp Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Neil McEvoy AC wedi ei wahardd dros dro o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Daw hynny wedi iddo gael ei wahardd am fis o'i swydd fel cynghorydd yng Nghaerdydd am sylwadau y gwnaeth wrth un o swyddogion y cyngor.
Dywedodd datganiad gan grŵp y blaid: "Gyda chytundeb Neil, mae grŵp Plaid Cymru wedi penderfynu y dylai gael ei wahardd dros dro o'r grŵp tra bod cytundeb ar y ffordd ymlaen yn cael ei ddarganfod yn dilyn digwyddiadau diweddar."
Ychwanegodd y datganiad fod arweinydd y blaid Leanne Wood wedi cyfarfod gyda Mr McEvoy cyn i'r grŵp gyfarfod gan benderfynu tynnu'r cyfrifoldeb o fod yn llefarydd y blaid ar chwaraeon a thwristiaeth oddi wrtho.
Mae ymchwiliad arall gan y blaid yn ehangach yn parhau.
'Gwneud y peth iawn'
Mae'r Aelod Cynulliad wedi galw'r tribiwnlys wnaeth ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am fis yn "ffars".
Dywedodd y tribiwnlys fod Mr McEvoy wedi bwlio swyddog o Gyngor Caerdydd drwy fygwth diogelwch ei swydd mewn digwyddiad ym mis Gorffennaf 2015, pan oedd mewn llys yn y ddinas yn cefnogi tenant cyngor oedd yn wynebu cael ei gyrru o'i chartref.
Yn dilyn ei wahardd o grŵp Plaid Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr McEvoy mewn datganiad nad oedd yn ymddiheuro am ymladd achos ei etholwraig ac y byddai'n mynd â'i achos i'r Uchel Lys er mwyn dangos ei fod "yn gwneud y peth iawn".
Ychwanegodd nad oedd yn gallu gwneud sylw pellach gan ei fod angen derbyn cyngor cyfreithiol a bod y gwaharddiad o'r grŵp yn un dros dro.
Dywedodd cadeirydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, Dai Lloyd AC: "Gyda chytundeb Neil, mae grŵp Plaid Cymru wedi cytuno y dylai gael ei wahardd tra'n bod ni'n dod i gytundeb ar ffordd ymlaen yn dilyn digwyddiadau diweddar.
"Cyn y cyfarfod grŵp fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, gyfarfod Neil McEvoy a phenderfynu ei dynnu allan o'r cabinet cysgodol a chymryd ei gyfrifoldebau portffolio oddi arno."
Dywedodd Mr Lloyd yn gynharach bod "proses ddeuol" yn mynd rhagddi - gydag ACau yn cwrdd gyfochr ag ymchwiliad cenedlaethol.
Ychwanegodd mai cadeirydd Plaid Cymru fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol am ddyfodol Mr McEvoy.
Llythyr grwpiau merched
Yn y cyfamser, mae grŵp o ymgyrchwyr hawliau merched a merched sydd wedi gorchfygu trais yn y cartref wedi ysgrifennu at Blaid Cymru yn galw ar y blaid i adolygu ei chefnogaeth i Mr McEvoy.
Mae'r rhai sydd wedi arwyddo'r ddogfen yn cynnwys Rachel Williams, llysgennad ar ran Cymorth i Ferched Cymru, ac un sydd wedi dioddef o drais yn y cartref ei hun.
Galwodd y llythyr ar i Blaid Cymru i "gymryd y camau angenrheidiol (yn cynnwys gwaharddiad tra bod ymchwiliad i gwynion newydd) i sicrhau nad oes ganddo [Mr McEvoy] blatfform i ymosod ar sefyllfa fregus bresennol merched yng Nghymru".
Dywedodd Ms Williams wrth BBC Cymru ei bod yn aelod o'r Blaid Lafur.
Mae Mr McEvoy wedi cyhuddo Cymorth i Ferched yn y gorffennol o "gamdrin plant wedi ei ariannu gydag arian cyhoeddus". Ymddiheurodd am y sylwadau'n ddiweddarach wedi iddo dderbyn rhybudd swyddogol gan Blaid Cymru.
Mewn ymateb i'r llythyr, dywedodd Mr McEvoy: "Dwi wedi brwydro'n gyson dros y gorthrymedig. Dwi'n cefnogi dynion a merched sydd wedi dioddef trais yn y cartref."