URC'n canslo 200 tocyn Cymru v Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru'n canslo 200 o docynnau ar gyfer gêm y Chwe Gwlad rhwng Cymru ag Iwerddon nos Wener am eu bod wedi eu gwerthu gan gwmni answyddogol.
Dywed yr undeb fod y tocynnau ar gyfer y gêm yn Stadiwm Principality wedi eu gwerthu yn groes i dermau gwerthiant.
Ychwanegodd yr undeb ei bod wedi sicrhau gorchymyn llys i atal cwmni Evental Ltd rhag torri eu rheolau.
Mae'r undeb yn awgrymu y dylai cefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau sicrhau eu bod wedi eu prynu o ffynonellau swyddogol.
Dywed termau gwerthu tocynau Undeb Rygbi Cymru na chaiff y tocynnau eu gwerthu am fwy na'u gwerth yn unlle arall heblaw am wefan Seatwave.
Yr unig ffynonellau swyddogol eraill yw drwy gwmni Events International, drwy glybiau'r undeb a drwy bartner teithio swyddogol URC, Gullivers Sports Travel.
Ychwanegodd yr undeb y byddai'n cynorthwyo unrhyw un sydd wedi "prynu'r tocynnau yn ddiffuant."