Deiseb: 'Tynnwch enw Y Bala o Garchar y Berwyn'
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau yn Y Bala yng Ngwynedd i lywodraethwr carchar newydd yn y gogledd newid enw adain o'r safle sydd wedi ei henwi ar ôl y dref.
Daeth i'r amlwg bod derbynfa un adain yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam yn dweud "Croeso i Bala", gyda llun o Lyn Tegid a'r Aran oddi tano.
Mae deiseb wedi ei dechrau yn y dref yn galw am ddiddymu'r enw, ac mae papur newydd lleol Y Cyfnod yn cefnogi'r ymgyrch.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai fod yr enw wedi ei ddewis er mwyn adlewyrchu diwylliant yr ardal.
'Torri nghalon'
Agorodd Carchar y Berwyn ar 28 Chwefror. Costiodd £212m i'w adeiladu ac fe fydd 2,100 o garcharorion yno pan fydd yn llawn.
Mae yna anfodlonrwydd yn Y Bala i'r enw gael ei roi heb ymgynghori â thrigolion yr ardal.
Mae Cyngor Tref Y Bala wedi cadarnhau na ymgynghorodd neb â nhw a doedd y cynghorydd lleol, Dilwyn Morgan, chwaith yn ymwybodol.
Dywedodd: "Mae cael enw Y Berwyn yn ddigon ond mae cael y darn sydd wedi ei agor yn barod wedi ei enwi yn 'Bala' yn eistedd yn anghyfforddus iawn efo fi."
Cafodd y ddeiseb ei rhannu ymhlith cynulleidfa Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala ddydd Sadwrn, ac erbyn diwedd y dydd roedd dros 100 o enwau wedi eu casglu.
"Fel cyn ddisgybl yn Ysgol y Berwyn, Y Bala mi roedd yn torri nghalon fod y lle yn cael ei enwi yn HM Prison Berwyn," meddai Llinos Jones-Williams, a gychwynodd y ddeiseb.
"Ond mae enwi adain ar ôl ein tref yn warth sydd yn brifo mwy. I rwbio halen ar y briw, mae'n debyg fod arwydd mawr wedi ei osod yn nerbynfa'r adeilad gyda 'Croeso i Bala' a llun hyfryd o Lyn Tegid oddi tano!
"Ni chawsom wybod am hyn tan i'r adeilad agor, a hyd y gwn i, ni chysylltwyd â neb i drafod os oedden ni, fel ardalwyr yn hapus â'r penderfyniad."
Mae Ms Jones-Williams wedi galw am gyfarfod gyda'r AS Liz Saville Roberts i drafod y mater.
'Cysylltiadau cryf'
Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae Carchar y Berwyn yn gwasanaethu dynion o ogledd Cymru i gyd - ac fe gafodd yr enw ei ddewis i adlewyrchu diwylliant yr ardal.
"Fe gafodd yr enw 'Berwyn' ei ddewis yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, tra bod yr enwau unigol wedi cael cael eu dewis gan aelodau o staff y carchar, gan bod gan nifer ohonyn nhw gysylltiadau cryf gydag ardal y gogledd."
Bydd y ddeiseb yn cael ei rhoi arlein yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017