Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 22-9 Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Jamie RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn eu gêm gartref olaf ym mhencampwriaeth y chwe gwlad eleni, ennill oedd hanes Cymru yn erbyn Iwerddon nos Wener.

Llwyddodd Cymru i oroesi'r pwysau gan flaenwyr Iwerddon yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth gampus yn eu herbyn.

Roedd Stadiwm Principality yn llawn dop gyda chefnogwyr Cymru yn edrych am welliant ers y perfformiad siomedig yn ail hanner y gêm yn erbyn yr Alban.

Roedd Cymru dan bwysau o'r munud cyntaf a'r Gwyddelod aeth ar y blaen ar ôl chwe munud yn dilyn cic gosb lwyddiannus gan Johnny Sexton.

Fe wnaeth Cymru fywiogi ychydig ar ôl deg munud gan fygwth amddiffyn Iwerddon, ond fel mewn nifer o achosion yn ystod y bencampwriaeth eleni, roedd Cymru methu gwneud yn fawr o'r meddiant.

Daeth cais cyntaf y gêm wedi 20 munud.

George North, sydd wedi derbyn beirniadaeth gyhoeddus gan dîm hyfforddi Cymru yn ystod yr wythnos, dderbyniodd y bêl ar yr asgell.

Llwyddodd i dorri'n rhydd o dacl gan ddau chwaraewr Iwerddon cyn croesi dros y llinell gais. Methodd Lee Halfpenny gyda'r gic i ychwanegu at y pwyntiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

George North yn sgorio cais cyntaf Cymru yn erbyn Iwerddon

Llwyddodd Paddy Jackson gyda chic gosb i wneud y sgôr yn 6-5 i'r Gwyddelod ar ôl 26 munud.

Ond munud cyn hanner amser fe aeth Cymru yn ôl ar y blaen, cic gosb lwyddiannus arall gan Halfpenny wedi i Johnny Sexton weld y garden felen i Iwerddon yn dilyn trosedd ar y llinell gais.

Roedd Cymru yn edrych yn beryglus yn ymosodol ac yn gryf yn ardal y dacl cyn i'r dyfarnwr Mr Wayne Barnes chwythu am hanner amser gyda'r sgôr yn 8 - 6 i Gymru.

Mantais i Gymru

Dechreuodd yr ail hanner yn berffaith i Gymru.

Croesodd George North am ei ail gais o'r gêm ar ôl 43 o funudau yn dilyn gwaith da gan y capten Alun Wyn Jones. Llwyddodd Lee Halfpenny gyda'r trosiad y tro hwn i wneud y sgôr yn 15-6 i Gymru.

Doedd Iwerddon heb ildio cais yn yr ail hanner mewn unrhyw un o'i gemau ym mhencampwriaeth y chwe gwlad eleni.

Fe dyfodd hyder yr ymwelwyr ar ôl i'r maswr Johnny Sexton ddychwelyd i'r cae.

Yn dilyn tacl uchel gan Dan Biggar ciciodd Sexton gic gosb hawdd i Iwerddon ar ôl 57 munud. Munud yn ddiweddarach roedd Biggar yn anlwcus pan darodd y postyn pan giciodd am gôl adlam.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Johnny Sexton oedd yn gyfrifol am gicio gwerth 6 o bwyntiau i Iwerddon

Roedd llif y gêm yn parhau'n gyflym wrth i Iwerddon bwyso am gais. Ond fe safodd amddiffyn Cymru yn gadarn wrth i Moriaty atal Sexton rhag croesi am gais i'r Gwyddelod.

Gyda chwaraewyr yn blino daeth cyfnod o eilyddio i'r ddau dîm gyda Jamie Roberts a Luke Charteris yn dod i'r cae i Gymru yn lle Scott Williams a Jake Ball.

Daeth Iwerddon yn agos i sgorio ac roedd y dorf yn credu bod Mr Barnes y dyfarnwr wedi rhoi cais i Iwerddon, ond daeth cadarnhad bod y Gwyddelod wedi troseddu drwy rwystro - hynny er rhyddhad i amddiffyn Cymru.

Gyda'r gêm yn dirwyn i ben llwyddodd Cymru i gadw disgyblaeth gan orfodi Iwerddon i wneud camgymeriadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Roberts yn croesi am y trydydd cais i Gymru

Jamie Roberts oedd y cyntaf i ymateb i gamgymeriad yn nwy ar hugain y Gwyddelod cyn croesi am drydydd cais Cymru ym munudau olaf y gêm.

Llwyddodd Halfpenny gyda'r gic a sicrhau buddugoliaeth gampus i Gymru o 22-9.

Gyda pherfformiad arbennig yn amddiffynnol bydd Cymru yn camu ymlaen i'r gêm nesaf yn erbyn Ffrainc yn llawn hyder a gadael gobeithion Iwerddon am y bencampwriaeth eleni yn deilchion.