Galw am 'strategaeth economaidd i wella gofal'
- Cyhoeddwyd
Gallai Cymru adeiladu "strategaeth economaidd" er mwyn helpu gwella gofal cymdeithasol, yn ôl yr AC Llafur Eluned Morgan.
Mae cynghorau'n galw am fwy o fuddsoddiad yn y sector wedi i'r canghellor gyhoeddi £2bn yn rhagor ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr.
Ond dywedodd Eluned Morgan nad yw rhagor o arian yn ddigon i gwrdd â'r galw cynyddol.
Bydd cyllideb Philip Hammond yn gweld £200m yn rhagor yn cael ei wario yng Nghymru dros bedair blynedd o ganlyniad i'r cynnydd mewn arian ar gyfer gofal cymdeithasol, yn ogystal ag ar feysydd eraill.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyllid blynyddol o £15bn.
Fe wnaeth adroddiad diweddar amcangyfrif y bydd costau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cynnyddu £1bn i £2.3bn erbyn 2030.
Dywedodd Ms Morgan wrth raglen Sunday Politics Wales bod angen syniadau mwy gwreiddiol yn y sector.
"Rwy'n credu bod potensial i ni uno datblygiad economaidd â'r gwasanaeth gofal," meddai.
"Gallwn ddechrau adeiladu tai ar gyfer pobl hŷn, fyddai'n addas yn y dyfodol tymor hir, er enghraifft.
"Fe allwn ni adeiladu strategaeth economaidd y tu ôl i hynny."
'Pasio'r arian ymlaen'
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud mai talu am ofal cymdeithasol yw'r broblem strategol fwyaf sy'n wynebu awdurdodau lleol dros y degawd nesaf.
Mae wedi galw i'r arian ychwanegol fydd yn dod i Gymru o'r gyllideb i gael ei basio ymlaen i'r cynghorau.
Mae corff newydd - Gofal Cymdeithasol Cymru - yn cael ei lansio'n swyddogol ar 1 Ebrill, fydd yn rheoli holl wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 11:00 ddydd Sul.