Cau oriel luniau Castell Bodelwyddan ar ôl colli grant
- Cyhoeddwyd
Bydd rhan o'r Oriel Bortreadau Cenedlaethol sydd wedi ei lleoli yng Nghastell Bodelwyddan yn cau, gyda saith aelod o staff yn cael eu diswyddo.
Mae'r penderfyniad yn dod wedi i Gyngor Sir Ddinbych, sy'n berchen ar y castell, dorri ei grant blynyddol o £144,000 i'r ymddiriedolaeth.
Dywedodd cyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth, Kevin Mason, fod aelodau "wedi dychryn" gyda'r penderfyniad.
Mae'r cyngor yn dweud mai'r rheswm dros y penderfyniad yw "amgylchedd ariannol anodd".
'Wedi syfrdanu'
Dywedodd Mr Mason fod rhan o'r castell yn cael ei brydlesu gan gwmni Warner Leisure Hotels, ac nad yw eu rhent blynyddol o £80,000 yn mynd i'r ymddiriedolaeth erbyn hyn.
"Rydym wedi ein syfrdanu gan benderfyniad y cyngor sir," meddai Mr Mason.
"Rydym wedi gwneud gwaith da iawn o ddefnyddio'r arian.
"Dwi ddim yn meddwl y byddech yn dod o hyd i nifer o amgueddfeydd cenedlaethol yn Llundain yn barod i wneud llawer gydag amgueddfa fach yng ngogledd Cymru erbyn hyn."
Mae'r toriadau yn golygu y bydd saith o'r 13 aelod o staff yr ymddiriedolaeth, gan gynnwys Mr Mason, yn cael eu diswyddo, gyda'r lluniau yn dychwelyd i'r Oriel Bortreadau Cenedlaethol erbyn diwedd mis Ebrill.
Bydd portreadau sydd wedi cael eu harddangos ers 1988 yn cael eu tynnu lawr ddydd Llun nesaf, ond bydd y caffi a'r siop yn parhau ar agor.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r amgylchedd ariannol anodd o fewn y sector cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod y cyngor wedi gorfod adolygu pob gwariant, ac rydym wedi penderfynu na allwn barhau i gyfiawnhau'r cymhorthdal hwn i Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan."