Lle oeddwn i: Opera roc Jiwdas Iscariot 1979

  • Cyhoeddwyd
Poster

Roedden nhw'n griw talentog a brwdfrydig o bob cwr o Gymru ac yn 1979 daeth Theatr Ieuenctid yr Urdd at ei gilydd i lwyfannu opera roc eiconig Jiwdas Iscariot. Bydd rhaglen Cofio ar Radio Cymru yn hel atgofion am y cynhyrchiad ar Sul y Pasg.

Huw Williams o'r Bala oedd yn chwarae' rhan Jiwdas:

"Ro'n i wedi bod yn perfformio mewn operau roc ers sawl blwyddyn, sy'n rhyfedd oherwydd ymuno gyda'r cwmnïau fel technegydd oeddwn ni wedi ei 'neud yn wreiddiol, ac yn cymryd rhannau bach i lenwi bylchau.

"Ro'n i wedi bod yn rhan o gorws y sioe Nia Ben Aur yn 1974, gan fy mod i erbyn hynny yn aelod o Ac Eraill,y band sgwennodd y gerddoriaeth ar gyfer y sioe.

"Dwi'n meddwl bod y syniad am Jiwdas wedi deillio o syniad yn ystod ymarferion sioe Agi Agi yn Ysgol y Berwyn y flwyddyn cynt. Aeth Emyr Edwards, cyfarwyddwr cwmni'r Urdd a Delwyn Siôn ati wedyn i greu Jiwdas.

"Erbyn hynny ro'n i wedi perfformio yn opera roc Dic Penderyn yn Eisteddfod Caerdydd 1978, ac am ryw reswm mi 'naethon nhw nhw ofyn i fi chwarae'r brif ran.

Stifyn Parri ac Elfed Dafis yn plygu clust Huw Williams oedd yn chwarae rhan Jiwdas
Disgrifiad o’r llun,

Stifyn Parri (Annas) ac Elfed Dafis (Caiaffas) yn plygu clust Huw Williams oedd yn chwarae rhan Jiwdas

"Aeth nifer o gast Jiwdas ymlaen i wneud bywoliaeth ar y teledu a'r theatr gan gynnwys Stifyn Parri, Siân James, Simon Fisher ac Elfed Dafis, felly roedd yn sioe heb ei ail."

Tra bod nifer o'i gyd-actorion wedi mynd yn eu blaenau i fod yn enwau cyfarwydd ym myd drama ac adloniant Cymru, penderfynodd Huw gilio o flaen y llwyfan wedi perfformiad ola Jiwdas Iscariot

"Ro'n i yn 25 oed, ac felly yn rhy hen beth bynnag ar ôl hyn i fod yn rhan o gwmnïau'r Urdd. Ro'n i hefyd wedi dechrau gweithio fel ymchwilydd ar raglen Bilidowcar yn y BBC, ac wedi penderfynu mai tu ôl i'r camera ro'n i isio bod yn hytrach na blaen y llwyfan."

Ond er i bawb fwynhau'r perfformiadau ar y cyfan, roedd elfennau cymysg yn yr adolygiad o Jiwdas Iscariot gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn wythnosol Y Faner ar 11 Mai 1979.

Caryl Parry Jones yn feirniadol iawn o rai elfennau o'r perfformiad

Cyw cantores ac actores ifanc o'r enw Caryl Parry Jones oedd yr awdur beirniadol. ac er bod hi'n amlwg wedi mwynhau'r sioe ar y cyfan, roedd cyfeiriad llai na charedig am berfformiad Robin Williams oedd yn chwarae rhan Iesu Grist yn y cynhyrchiad.

"Robin Williams, brawd Huw...oedd Iesu Grist. Ond siomedig oedd y portread hwn...doedd o ddim yn taro deuddeg...yn gymeriadol nag yn lleisiol." Awch!

Fe wnaeth Cymru Fyw atgoffa Caryl o'i geiriau miniog:

"Iasu... dwi ddim hyd yn oed cofio adolygu'r sioe, er dwi yn cofio ei gweld hi. Fues i'n siarad gyda'r trefnydd cerdd, Dulais Rees ar y noson, a dwi'n cofio gofyn iddo pa interval cerddorol oedd orau ganddo. 'Yr un rhwng yr act cyntaf a'r ail' meddai dan chwerthin.

"Ond dwi ddim yn cofio bod mor galed a fues i ar Robin. Mi wel'is i o sbel fach yn ôl yn un o gemau rygbi'r Gleision, a wnaeth o ddim fy nhaflu i i'r llewod, felly mae'n siwr ei fod wedi maddau i mi."

Yn ffodus i Caryl mae Huw yn awgrymu bod Robin ei frawd wedi anghofio popeth am yr adolygiad

"Dwi ddim yn siwr ei fod o 'rioed wedi sôn am y peth, ond mae'r actor Ieuan Rhys yn difaru hyd heddiw nad oedd o wedi cael rhan yn y sioe ac mae'n cyfeirio at hynny yn ei hunangofiant."

Huw Williams a Seimon Fisher
Disgrifiad o’r llun,

Huw Williams a Simon Fisher