Pleidlais Cyngor Tref Y Bala yn cefnogi deiseb carchar

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae adain yng Ngharchar y Berwyn wedi ei enwi ar ôl tref Y Bala

Mae Cyngor Tref Y Bala wedi pleidleisio'n unfrydol i wrthwynebu enwi adain o Garchar y Berwyn, Wrecsam yn 'Bala'.

Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod arbennig yn y dref nos Lun.

Bydd aelodau o'r cyngor nawr yn cefnogi'r ddeiseb sydd yn galw ar awdurdod y carchar i newid yr enw.

Cafodd deiseb ei llunio ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod adain yng ngharchar y Berwyn wedi ei henwi'n Bala, ac mae tua 400 wedi ei arwyddo bellach.

Dywedodd aelod o Gyngor Tref y Bala, y Cynghorydd Eifion Roberts: "Y prif reswm rydym yn gwrthwynebu yw ein bod ddim wedi cael unrhyw ymgynghoriad gan y carchar ynglŷn â defnyddio'r enw 'Bala'.

"Tydi o ddim yn gymorth i'r Bala o ran denu twristiaeth pan fo darn o garchar yn cael ei enwi yn Bala," meddai.

Daeth cadarnhad hefyd bod aelodau o'r cyngor yn gobeithio trefnu cyfarfod gyda warden Carchar y Berwyn, Mr Russ Trent, i drafod eu pryderon.

'Newid meddyliau'

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Maer Y Bala, Ms Edith Roberts: "Mi oeddem yn unfrydol yn erbyn enwi adain y carchar yn Bala. Rydym am gefnogi'r ddeiseb ar y we.

"Rydym am wneud ein gorau glas i newid meddyliau awdurdod y carchar. Rydym wedi cael ein brifo braidd."

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, bydd Carchar y Berwyn yn gwasanaethu pob rhan o ogledd Cymru ac felly cafodd yr enw Berwyn ei ddewis i adlewyrchu diwylliant yr ardal.

Ychwanegodd llefarydd bod yr enwau eraill - Bala, Ceiriog ac Alwen - wedi eu dewis gan staff y carchar sydd â chysylltiadau cryf â gogledd Cymru.