Economi'r gogledd: 'Angen hybu cymunedau difreintiedig'

  • Cyhoeddwyd
Iwan Trefor Jones

Mae angen sicrhau bod unrhyw gynllun i hybu economi gogledd Cymru yn cefnogi'r cymunedau mwyaf difreintiedig, yn ôl y bartneriaeth sy'n paratoi cais am fuddsoddiad.

Mae Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru'n "flaenoriaeth" yn ôl Llywodraeth y DU, a byddai'n "creu swyddi ac yn sbarduno buddsoddiad".

Ond yn sgil pleidlais Brexit, rhybuddiodd Iwan Trefor Jones o Bartneriaeth Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru bod angen i unrhyw gytundeb "wasgaru twf ar draws y gogledd".

Mewn cyfweliad gyda rhaglen O'r Senedd BBC Cymru ar gyfer S4C, dywedodd Mr Jones: "Rydan ni wedi llwyddo i ariannu nifer fawr o gynlluniau gwahanol gydag arian Ewropeaidd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn y cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru, ac yn enwedig yng ngogledd orllewin Cymru.

"Felly mae'n mynd i fod yn her i sicrhau bod yr ardaloedd yna'n cael yr un lefel o degwch.

Buddsoddiad

"Byddwn ni'n pwysleisio mewn unrhyw fath o gytundeb yr angen i wasgaru twf ar draws y gogledd, fel ei fod o'n cyrraedd y cymunedau mwyaf difreintiedig."

Mae buddsoddiad sylweddol eisoes ar y gweill ar gyfer rhannau eraill o Gymru.

Bydd Bargen Ddinesig Caerdydd werth £1.2bn i'r de ddwyrain, ac mae disgwyl cytundeb yn fuan ar gynllun tebyg yn ardal Bae Abertawe.

Cafodd y Cynllun Twf ar gyfer y gogledd ei grybwyll yng nghyllideb y canghellor yr wythnos diwethaf, a dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod bargen i ogledd Gymru yn "flaenoriaeth".

"Bydd Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn ein galluogi i ddod o hyd i'r pecyn strategol cywir ar gyfer y rhanbarth - un fydd yn creu swyddi ac yn sbarduno buddsoddiad newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates bod y cynllun yn dod â "phosibiliadau lu"

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates: "Byddai cefnogaeth gan Lywodraeth y DU i gytundeb twf uchelgeisiol ar gyfer gogledd Cymru yn hwb sylweddol i'r gwaith o'i sefydlu fel pwerdy economaidd.

"Mae posibiliadau lu ynghlwm wrth hyn.

"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi arwain wrth ddwyn ynghyd arweinwyr a busnesau o ddwy ochr y ffin i drafod sut y gallwn sicrhau'r cyfleoedd economaidd gorau posibl ar gyfer gogledd Cymru drwy gytundeb o'r fath."

Bydd mwy ar y stori hon ar O'r Senedd ar S4C nos Fawrth am 22:00.