Dr Felix Aubel yn gwadu cefnogi erledigaeth ar Twitter

  • Cyhoeddwyd
Dr Felix Aubel

Mae aelod amlwg o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwadu awgrymiadau ei fod yn cefnogi erledigaeth grefyddol gan ddweud bod "camddealltwriaeth llwyr" wedi digwydd.

Roedd Dr Felix Aubel wedi ymateb i neges at Twitter gan flogiwr asgell dde eithafol o Sweden drwy ofyn a ddylai Cristnogion yn Ewrop wneud yr hyn a wnaeth pobl Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Roedd yn cyfeirio at Chwil-lys Sbaen, pan gafodd Mwslemiaid ac Iddewon eu herlid a'u harteithio wrth gael eu llosgi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Barn Felix Aubel ei hun yw hyn ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn cynrychioli barn y Ceidwadwyr Cymreig.

"Ni allwn esgusodi'r defnydd o'r math yma o iaith."

Ffynhonnell y llun, Twitter/Dr Felix Aubel
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd neges Dr Aubel ei ddileu o'i gyfrif Twitter yn ddiweddarach

Mae Dr Aubel, sydd yn weinidog ar nifer o gapeli yn ardal Caerfyrddin, wedi dileu'r neges oedd yn cynnwys ei ymateb ar Twitter, ond dywedodd wrth BBC Cymru fod camddealltwriaeth wedi bod.

"Roeddwn i'n gofyn cwestiwn pen agored am sylwadau gwrth-grefyddol y trydariad, ac nid yn gwneud datganiad," meddai.

"Rwyf o dras cymysg fy hun ac nid ydw i'n cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol neu hiliol."

Fe ddaeth teulu Dr Aubel i dde Cymru fel ffoaduriaid wedi'r Ail Ryfel Byd.

Mae'r teulu'n hanu o Slofenia, ac fe wynebodd aelodau erledigaeth gan Serbiaid yn yr Iwgoslafia newydd gafodd ei chreu yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Dr Aubel wedi sefyll fel ymgeisydd mewn nifer o etholiadau'r Cynulliad a San Steffan, ond ni fydd yn sefyll fel ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.