Gardd chwarae Ysbyty Plant Cymru yn agor
- Cyhoeddwyd
Gall plant sy'n gleifion yn unig ysbyty plant Cymru chware yn yr awyr agored am y tro cyntaf diolch i ardd newydd sy'n cael ei hagor yn swyddogol ddydd Gwener.
Mae'r datblygiad gwerth £1.85m - sy'n cynnwys mannau eistedd, tŷ chwarae, drysfa a llithren - wedi cael ei gynllunio yn benodol i fod yn gymorth i blant wella ar ôl cael triniaeth.
Mae'n cynnwys ardal therapi, sydd â lloriau arbennig a gwair artiffisial sy'n caniatáu i blant ymarfer cerdded a datblygu sgiliau cadair olwyn.
Mae rhan o'r ardd hefyd wedi cael ei chynllunio i edrych fel jyngl, ac ar ôl machlud mae'r safle yn cael ei oleuo gan oleuadau lliwgar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £1.6m ar gyfer y gwaith adeiladu, ac fe gafwyd rhodd o £250,000 gan elusen Arch Noa i dalu am y cyfarpar.
Er bod gan holl wardiau'r ysbyty ystafelloedd chwarae dan do, hyd yma doedd dim man penodol i chware tu fas.
Mae'n ymddangos bod yr ardd eisoes yn plesio.
"Rwy' wrth fy modd," medd Neve, sy'n bump oed o Abercynon. "Mae 'na gymaint o bethau i wneud yma."
Cafodd Neve ei throsglwyddo i'r ysbyty saith wythnos yn ôl gyda chyflwr oedd yn amharu ar allu ei hymennydd i reoli ochr dde ei chorff.
Mae'n cael therapi pob dydd er mwyn ailddysgu cerdded a datblygu ei sgiliau cadair olwyn.
Dywedodd Danielle King, sy'n aelod o'r tîm sy'n rhoi cymorth i Neve: "Ni'n chwarae tu allan er mwyn ymarfer cerdded a hefyd ymarfer gyda'r gadair olwyn.
"Mae'r ardd yn creu cyfle i blant ddod allan o'r wardiau a chael awyr iach.
"Mae'n dda i'r teuluoedd gael amser ar eu pen eu hunain hefyd - mae'n rhyddhad.
"Mae'n rhoi'r cyfle i blant fod yn blant."
Fe agorodd Ysbyty Plant Cymru yn 2006, ac fe gafodd ail ran yr ysbyty ei gwblhau yn 2015.
Mae'r ardd wedi ei lleoli rhwng y ddau adeilad.
Yn ôl Bethan Simmonds o elusen Arch Noa, mae agor yr ardd yn goron ar y cyfan.
"Yr ardd yw'r geiriosen ar dop y gacen," meddai. "Mae'n hafan i blant a rhieni."
"Mae 'na ystafelloedd chwarae ar bob ward ond mae bod y tu allan yn gwneud cymaint o wahaniaeth - teimlo'r gwynt ar eich wyneb a'r haul ar eich croen.
"O fewn yr ardd mae 'na ardal therapiwtig i blant sydd efallai wedi cael llawdriniaeth neu ddamwain.
"Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer plant sydd â ffeibrosis systig, sy'n cael trafferth anadlu.
"Mae 'na wastad pethau eraill i'w wneud - rhaid i ni sicrhau bod gan yr ysbyty gyfleusterau sydd cystal â'r gorau yn y byd, felly byddwn ni'n parhau i godi arian."