Cofio gyrfa Gareth Edwards
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n hanner can mlynedd ers i'r chwaraewr rygbi, sy'n cael ei ystyried fel un o'r goreuon erioed, gynrychioli Cymru am y tro cyntaf.
Yn 19 oed fe enillodd Gareth Edwards ei gap cyntaf yn erbyn Ffrainc yn Stade Olympique de Colombes ar 1 Ebrill, 1967.
Fe aeth y bachgen o Waun-Cae-Gurwen 'mlaen i chwarae 53 gwaith yn olynol dros ei wlad yn ystod oes aur rygbi Cymru.
Mewn cyfweliad arbennig gyda Cymru Fyw mae Gareth Edwards yn rhannu ei brofiadau o chwarae dros Gymru a'i atgofion o'r diwrnod hwnnw o Wanwyn ym Mharis yn 1967.
Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd Gareth Edwards gyda rai o ffigyrau chwedlonol y gêm fel Barry John, John Dawes a Merfyn Davies, ac yn erbyn rhai eraill fel Sid Going a Ian Kirkpatrick.
Ond gwnaeth un chwaraewr o Gymru argraff fawr ar Gareth gyda'i redeg twyllodrus ar yr asgell.
Mae'r gêm wedi newid llawer yn y blynyddoedd ers i Gareth Edwards gynrychioli Cymru, a gyda mwy o gemau yn cael eu chwarae, mae'n gyfle i roi capiau i'r chwaraewyr ifanc.
Yn ôl Gareth dydi oed y chwaraewyr ddim mor bwysig a hynny: 'Os yw'r bechgyn yn ddigon da, rhowch gyfle iddyn nhw'.