Carwyn Jones yn cyhuddo Theresa May o 'beidio gwrando'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhuddo Theresa May o "beidio gwrando" ar faterion yn ymwneud gyda datganoli.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Guardian, dolen allanol, fe rybuddiodd bod yna beryg i'r "datgysylltiad" mae pobl yn teimlo tuag at Frwsel ddod yn wir am Lundain ar ôl Brexit.

Gwnaeth Mr Jones ei sylwadau ddydd Sul, y diwrnod cyn i Mrs May a Chymru.

Mae disgwyl iddi gynnal sgwrs gyda Mr Jones ynglŷn â Brexit yn ystod ei hymweliad dydd Llun

Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn honni bod yna "dir cyffredin" ynglŷn â'r Undeb Ewropeaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

Mae Mrs May yng Nghymru ddydd Llun er mwyn arwyddo cytundeb Bae Abertawe.

'Datgysylltiad'

Dywedodd Mr Jones wrth y Guardian: "Os nad ydyn nhw'n ofalus, bydd y teimlad o ddatgysylltiad mae pobl yn teimlo tuag at Frwsel yn cael ei gysylltu gyda Llundain.

"Maen nhw'n rhoi'r argraff weithiau nad ydyn nhw'n gwrando.

"A pa fath o neges yw hynny i bobl Cymru?"

Ond gwrthod y feirniadaeth mae Alun Cairns gan ddweud bod yna "lot o dir cyffredin" rhwng Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ynglŷn â Brexit.

Wrth siarad ar BBC Radio Wales dywedodd Mr Cairns bod ymweliad Mrs May â Chymru yn "dangos y flaenoriaeth rydyn ni yn osod ar yr undeb."

"Mae hyn yn ymwneud a chael y fargen iawn ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan," meddai.