Ateb y Galw: Sion Ifan
- Cyhoeddwyd
Yr actor Sion Ifan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Carwyn Jones yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Bwydo'r hwyaid ym Mharc Thompson, Caerdydd gyda Dadcu.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Yr actores Eva Longoria.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pisho fy hun ar lwyfan! On i'n 26!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Pan glywes i fod rhaid fi ateb y cwestiynau hyn.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gadel llanast yn y gegin ar ôl coginio.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd yn yr haul.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gwylio Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd (yn erbyn Namibia os fi'n cofio'n iawn!!!) mewn bar chwaraeon yn San Francisco!
Roedd y rhyddhad o ffindo rhywle oedd yn dangos y gêm yn ormod i ni, ac mi aeth hi'n noson flêr iawn!! Neu Gŵyl Rhif 6 y llynedd. Cyn i'r car fynd yn styc yn y mwd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Caredig, Angerddol, Narsisiaidd.
Beth yw dy hoff lyfr?
'Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau' gan Llwyd Owen neu 'Freedom' gan John Frazen.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Y Seneddwr Bernie Sanders. Gwrando arno yn trafod gwleidyddiaeth yn ei ffordd graff, ddeallus arferol dros beint o Brooklyn Lager.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Moonlight. Lot, lot gwell na La La Land.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mi fydden i'n cerdded fyny Castell Dryslwyn i edrych ar yr haul yn machlud dros Ddyffryn Tywi.
Dy hoff albwm?
Methu dewis. Ond fy hoff un diweddar yw The Party, Andy Shauf
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?
Prif gwrs- stecen, chips tene a digon o win coch.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Felix Aubel, i mi gal tocyn un-ffordd i'r lleuad!
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Rhys Bidder