Syndrom Down: Balchder mam Pwyll
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ddydd Mawrth i nodi diwrnod Syndrom Down, mae mam i fachgen bach sydd â'r cyflwr yn dweud ei bod yn hollbwysig codi ymwybyddiaeth a meithrin agwedd fwy positif tuag at y syndrom.
Doedd Gwennol Haf a'i gŵr Gareth, sy'n byw yng Nghaerdydd, ddim yn gwybod fod y cyflwr ar Pwyll cyn iddo gael ei eni ym mis Medi 2014, ac mae'n dweud ei bod yn falch mewn ffordd nad oedden nhw'n gwybod hynny.
I nodi'r diwrnod, fe drodd Gwennol at y cyfryngau cymdeithasol i sôn am ei phrofiadau wrth fagu Pwyll, ac yn garedig iawn, mae hi wedi caniatáu i Cymru Fyw rannu ei geiriau.
Mae'n ddiwrnod rhyngwladol Down Syndrome heddi - diwrnod i godi ymwybyddiaeth am y syndrom, ac i ni fel teulu mae'n ddiwrnod i ddathlu'r holl bethe ma Pwyll wedi cyflawni hyd yn hyn.
Fe gawson ni wybod bod gan Pwyll Down Syndrome ar ôl iddo gael ei eni. Mewn sawl ffordd ni'n falch mai fel hyn ddigwyddodd e i ni. Mae angen lot o waith addysgu a hyfforddi doctoriaid a staff meddygol sy'n rhoi diagnosis i rieni.
Yn aml, mae nhw'n rhoi darlun negatif iawn o'r syndrom, sy'n arwain at ganran uchel iawn o erthyliadau os oes diagnosis o Down Syndrome yn cael ei roi cyn i'r babi gael ei eni.
O'n ni'n lwcus, fe gawson ni brofiad positif iawn gyda'r staff i gyd yn gefnogol a chyfeillgar. Dyw cael plentyn gyda Down Syndrome ddim yn ddiwedd y byd fel ma lot o bobl yn meddwl.
Newid agwedd
Ma'n agwedd i tuag at y syndrom yn wahanol iawn nawr i gymharu â tair blynedd nôl pan o'n i'n feichiog. On i'n meddwl na fyddwn i'n gallu delio gyda fe - ni wedi, ac fe fyddwn ni.
Ers i Pwyll gael ei eni, mae na sialensau a rhai cyfnodau anodd wedi bod, ond ar y cyfan mae ein bywydau ni wedi cario mlaen fel unrhyw un arall.
Ni'n cael rhai therapies i helpu Pwyll i gerdded a siarad, bydd e ychydig yn arafach na phlant eraill i wneud rhai pethau ond mae e'n llwyddo yn y pendraw.
Ni newydd fod ar wyliau i Center Parcs a mae e nawr yn hyderus yn cerdded, i'r graddau o'dd e'n cymryd 6 oedolyn i ofalu amdano fe achos odd e moin crwydro gymaint (fel arfer ar gyrtiau badminton pobl eraill!)
Bydd Pwyll yn cael y cyfle i wneud unrhyw beth ma' plant eraill yn ei wneud. Mae e'n mwynhau bod yng nghwmni plant a phobl eraill. Ni'n mynd i'r parc, mae e'n joio mynd ar y siglen.
Mae e'n CARU cacennau a hufen ia!
Mae e'n ddrygionus ond yn gariadus, yn enwedig tuag at ei frawd bach newydd, Ynyr. Mae e'n joio darllen llyfrau a taflu peli mewn i'w basketball hoop.
Croesi pontydd
Ni'n gwybod fydd 'na sialensau eraill yn y dyfodol, ond y peth pwysicaf ni 'di dysgu ers i Pwyll gael ei eni yw i groesi pontydd pan ni'n cyrraedd nhw.
Pan gafodd e ei eni, nethon ni boeni am bopeth - pob manylyn bach. Ond does dim pwynt. Ma lot ohono fe'n barod heb ddigwydd.
Yn y gorffennol, ma' pobl â Down Syndrome wedi methu gwneud pethau achos bod nhw'n cael eu trin fel petae nhw methu neud pethau.
Byddwn ni ddim yn penderfynu bod na bethau all Pwyll ddim gwneud - byddwn ni'n rhoi pob cyfle iddo fe lwyddo yn beth bynnag ma fe ishe neud.
Pwyll, ni mor falch ohonot ti.