Merched Eden i swyno 'Steddfodwyr Môn ar Lwyfan y Maes
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Eden fydd uchabwynt y perfformiadau ar Lwyfan y Maes nos Wener 11 Awst yn y brifwyl ar Ynys Môn eleni.
Bydd y merched yn dilyn ôl troed rhai o fawrion y sîn gerddorol Gymraeg sydd wedi diddanu'r dorf ar y nos Wener dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Huw Chiswell, Bryn Fôn, Geraint Jarman ac Edward H Dafis.
Bod-Eden
Mae Rachael, Emma a Non yn dweud eu bod yn edrych ymlaen am y daith i Fodedern: "Mae'r tair ohonom ni wedi ecseitio yn lân ein bod ni'n neud Y gig mawr ar Lwyfan y Maes!
"Dyma'r ffordd berffaith i ni ddathlu pen-blwydd Paid â Bod Ofn yn 21!
"Dydyn ni methu disgwyl i fod yn Ynys Môn ddechrau Awst, a throi Bodedern yn Bod-EDEN am un noson!"
Mae hi'n 21 mlynedd ers i'w halbwm Paid â Bod Ofn gael ei rhyddhau, ac iddyn nhw berfformio ym Maes B yn Eisteddfod Y Bala.
Daeth y tair, sy'n canu gyda'i gilydd ers dyddiau ysgol, yn boblogaidd iawn yn ystod y 90au, a bydd cyfle i bawb gamu'n ôl i'r cyfnod hwnnw am un noson yn unig mewn dathliad pen-blwydd mawr.
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: "Fel merch o'r un ardal â genod Eden, 'alla i ddim disgwyl i'w gweld nhw'n perfformio yn y slot yma ar Lwyfan y Maes.
"Yn bendant, bydd hwn yn un o uchafbwyntiau'r wythnos, ac rwy'n gwybod y bydd cannoedd yn union fel fi yn awyddus i ail-fyw'r 90au am un noson!"
Dyma'r noson gyntaf i'w chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf a thocynnau ar werth o 3 Ebrill ymlaen.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst.