Blogiwr yn gorfod talu iawndal neu werthu ei thŷ

  • Cyhoeddwyd
Jacqui Thompson

Mae llys wedi gorchymyn fod blogiwr o Sir Gaerfyrddin yn talu iawndal o £250 y mis dros gyfnod o ddeng mlynedd, neu bydd yn rhaid iddi werthu ei thŷ ar ôl colli achos enllib yn erbyn Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James.

Gwnaed y dyfarniad gan Lys Sirol Gaerfyrddin yn erbyn y blogiwr Jacqui Thompson o ardal Llanwrda.

Daw hyn yn sgil dyfarniad blaenorol gan yr Uchel Lys fod yn rhaid i Mrs Thompson dalu iawndal o £25,000 i Mr James am ei enllibio.

Ddydd Iau dywedodd Mark Spackman, cwnsler Mark James, wrth y Llys Sirol fod Mrs Thompson wedi dechrau ymgyrch o "aflonyddu ac enllib" a'i bod yn gyfrifol am achosi ei hanffawd ei hun.

Dywedodd Mr Spackman wrth y gwrandawiad bod byngalo Ms Thompson werth £200,000. Mae'n berchen ar yr eiddo gyda'i gŵr.

'Effaith ofnadwy'

Ond dywedodd Mrs Thompson, oedd yn cynrychioli ei hun, mai rhwng £150-180,000 yw gwerth y tŷ.

Roedd Mr Spackman wedi dadlau y byddai'n "deg ac yn gyfiawn" i orchymyn bod yn rhaid gwerthu'r eiddo am fod Jacqui Thompson wedi gwrthod derbyn dyfarniad y llys.

Ond dadl Mrs Thompson oedd ei bod wedi rhoi "sylw cyfiawn" ynglŷn â gweithgaredd y cyngor.

Mae hefyd yn dweud bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad oedd yn honni bod y penderfyniad gan y cyngor i dalu costau llys Mr James yn anghyfreithlon.

Dywedodd bod y gorchymyn i werthu ei thŷ yn mynd yn erbyn ei hawliau dynol ac y byddai yn cael "effaith ofnadwy" ar fywyd ei theulu.

'Ymddygiad annerbyniol'

Ar ôl yr achos fe wnaeth Mr James ryddhau'r datganiad canlynol.

"Rwy'n bles gyda dyfarniad heddiw. Does gennyf ddim dymuniad i gymryd cartref rhywun oddi wrthynt, ond doedd gennyf ddim opsiwn yn yr amgylchiadau lle'r oedd Mrs Thompson, yn gwbl agored, wedi gwrthod ufuddhau i ddyfarniad a gwneud cynnig rhesymol o ran taliadau.

"Mae staff y cyngor yn gweithio yn galed ar ran trigolion y sir ac rydym yn derbyn fod yn rhaid wynebu beirniadaeth ond mae ymddygiad Mrs Thompson wedi bod yn annerbyniol.

"Fe ddylai staff y cyngor wneud eu dyletswyddau heb ofn enllib ac rwy'n falch fod dyfarniad heddiw yn adlewyrchu hynny. "