£10,000 i bob cyngor i brynu offerynnau cerdd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd pob cyngor yng Nghymru yn cael £10,000 yn ychwanegol i brynu offerynnau cerdd i ddisgyblion.
Bydd cyfanswm o £220,000 ar gael felly i gynorthwyo gwasanaethau cerdd yr awdurdodau lleol i brynu offerynnau, gyda'r rheini'n cael eu targedu at y rheini sydd â'r angen mwyaf.
Dywedodd Kirsty Williams: "Nid oes modd i gariad a thalent cerddorol person ifanc ddatblygu oni bai ei fod yn cael y cyfle i chwarae offeryn cerdd o'i ddewis, yn arbennig y rheini sydd am symud ymlaen i'r lefel nesaf a chael hyfforddiant cerddorol ar lefel unigol.
"Dyna pam fy mod yn cyhoeddi £220,000 o gyllid yn ychwanegol, sy'n golygu y bydd £10,000 ar gael i bob awdurdod lleol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i brynu offerynnau newydd.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda chynghorau i lunio dull o rannu offerynnau yn genedlaethol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud gwell defnydd o'u stoc bresennol o offerynnau, a gweld lle mae bylchau yn bodoli.
"Bydd y cyllid newydd hwn yn gallu helpu i fynd i'r afael â hyn."
Gwaddol Cenedlaethol
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £1m ar gael i sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, a fydd yn galluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd cerddorol.
Y nod yw y bydd y gronfa yn creu o leiaf £1m y flwyddyn yn y pen draw, fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau cerddorol ychwanegol ar gyfer pobl ifanc ar draws y wlad.
Ond nid pawb sy'n credu y bydd prynu offerynnau yn datrys problem sylfaenol yn y maes hwn.
Ym mis Rhagfyr y llynedd dywedodd cyn-gadeirydd adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau cerddorol ysgolion Cymru - Emyr Wynne Jones - ei fod yn amau a oes ewyllys gwleidyddol yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion yn ddigon o flaenoriaeth.
Yn ôl Mr Jones, sy'n ymgynghorydd cerddoriaeth ac yn gyn-drefnydd cerddoriaeth Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, mae llai o gerddorion safonol yn dod drwy'r system erbyn hyn.
Bu'n siarad ar raglen Taro'r Post bryd hynny, ac ar yr un rhaglen dywedodd cyn-enillydd Tlws y Cerddor ac Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Rhys Taylor wrth y rhaglen bod angen addasu'r system.
'Diffyg hyfforddwyr'
"Mae'r holl blant yma'n ysu at ddysgu offeryn," meddai.
"Os yw'r llywodraeth yn dweud eu bod nhw am dalu i brynu offerynnau, allwch chi ddim llwytho offerynnau mewn i'r system a pheidio rhoi hyfforddwyr i hyfforddi.
"Byddai hynny'n wastraff arian a waeth iddyn nhw wario fo ar rywbeth arall.
"Mae'r athrawon yn hollbwysig, a heb yr athrawon fydd 'na ddim hyfforddiant, fydd 'na ddim mwynhad a fydd y plant a phobl ifanc methu cael gwersi."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod cerddoriaeth yn "parhau i fod yn rhan bwysig o'r cwricwlwm yng Nghymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2016